Archif Newyddion

Gor-Awen: Cynhadledd yr Academi yn gwthio ffiniau

Mae’r pegwn eithaf yn agosach na’r disgwyl gydag awduron. O’r frwydr yn erbyn alcoholiaeth i feddwi ar bresenoldeb eich Duw, gall llenyddiaeth gwmpasu eithafion ysbrydol, corfforol a deallusol. Dyma rai o’r themâu a fydd yn cael eu trafod gan nofelwyr, beirdd a newyddiadurwyr yng nghynhadledd flynyddol yr Academi yng Ngwesty’r Esplanade Llandudno ar benwythnos 24-26 Chwefror 2006. Oes y fath beth â gor-awen? Bydd Wynford Ellis-Owen, sydd wedi cyhoeddi cyfrol ddirdynnol eleni am ei brofiadau gydag alcoholiaeth, yn sgwrsio gyda’r Prifardd Aled Jones Williams, sydd wedi ysgrifennu am ei frwydr ef gyda’r ddiod gadarn.
Yn ymuno â nhw bydd y bardd pync o Loegr, Billy Childish, y nofelwyr Llion Iwan, James Hawes, Bethan Gwanas a Niall Griffiths, ynghyd ag enillydd Llyfr y Flwyddyn 2005 Caryl Lewis, y darlledwr Jon Gower, y bardd Ruth Padel, cerddoriaeth gan Fflur Dafydd a nifer fawr o gyfranwyr eraill. Gyda dyfodiad y trwyddedau gwerthu alcohol 24 awr, a ieuenctid Prydain yn yfed mwy nag erioed, dyma gyfle i ddod i ddeall beth yw effeithiau gormodedd ar yr awen.
Gor-Awen / Intoxication: Cynhadledd Ddwyieithog yr Academi, Gwesty’r Esplanade, Llandudno, 24-26 Chwefror 2006. Mae tocynnau - £135 sy’n cynnwys llety penwythnos, bwyd a darlithoedd - ar gael nawr gan yr Academi ar 029 2047 2266 neu post@academi.org. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:
Academi, Peter Finch: Prif Weithredwr, Tŷ Mount Stuart, Sgwâr Mount Stuart,Caerdydd CF10 5FQ
Ffôn: 029 2047 2266



