Archif Newyddion
Bardd Cenedlaethol Cymru yn dathlu agoriad y Senedd

Mae Dydd Gwyl Dewi eleni yn ddiwrnod hanesyddol i Gymru, pan agorir adeilad newydd y Cynulliad – y Senedd – yn swyddogol. Wedi ei leoli ar lan Bae Caerdydd, mae adeilad newydd y Senedd, a gynlluniwyd gan yr Arglwydd Rogers, yn adlewyrchu ffurfiau organig byd natur.
Bydd Gwyneth Lewis, Bardd Cenedlaethol Cymru, ymhlith y rhai a fydd yn cymryd rhan yn y seremoni agoriadol swyddogol y bore hwnnw. Ym mhresenoldeb y Frenhines ynghyd â dau gant o westeion arbennig, bydd Gwyneth Lewis yn darllen cerdd ddwyieithog a gomisiynwyd yn arbennig. Bydd y gerdd yn nodi’r achlysur hollbwysig hwn a sicrhau bod barddoniaeth yn chwarae rôl yn hanes Cymru.
Penodwyd Gwyneth Lewis yn Fardd Cenedlaethol yn 2005, ac ers hynny, trwy gyfrwng ei barddoniaeth, mae hi wedi nodi achlysuron megis Camp Lawn Cymru ac wedi coffáu Gwynfor Evans yn ei marwnad ‘Maen Hir’. Mae Gwyneth yn troi ei sylw nawr at fywyd gwleidyddol Cymru, i ddathlu Senedd newydd y Cynulliad Cenedlaethol gyda’r gerdd ‘Gorwel â Phobl’.
Fel Bardd Cenedlaethol mae Gwyneth Lewis yn gweithredu fel lladmerydd llenyddol i Gymru, gan nodi a dathlu ein bywydau trwy gyfrwng barddoniaeth. Gweinyddir y cynllun gan yr Academi gyda nawdd Cyngor Celfyddydau Cymru. Mae Gwyneth wrth ei bodd ei bod yn cyfrannu at seremoni agoriadol y Senedd. Dywedodd:
“Does dim amheuaeth taw ysgrifennu’r gerdd ar gyfer agoriad swyddogol adeilad newydd y Cynulliad Cenedlaethol yw’r sialens mwyaf i mi mor belled fel Bardd Cenedlaethol. Wrth feddwl am brydferthwch ac ansawdd adeilad yr Arglwydd Rogers, fodd bynnag, meddyliais am yr egwyddorion moesol, gwleidyddol a chymdeithasol fydd yn cael eu deddfu a’u dadlau yma. Dwi’n falch iawn i gymryd rhan mor bwysig yn y seremoni agoriadol, ac i gynrychioli traddodiad barddol Cymru mewn achlysyr mor hanesyddol. Dylai bardd allu mynegi ein gobeithion ar gyfer y sefydliad ifanc hwn a’n hatgoffa am yr egwyddorion sylfaenol a ddylai drwytho’r ffordd y defnyddir iaith yn yr adeilad newydd syfrdanol hwn.”
Mae’r gerdd ‘Gorwel â Phobl’ yn mynegi rôl y Senedd newydd i Gymru ac yn myfyrio ar waith y gwleidyddion:
Siaradwch o’ch gwreiddiau ac fe gwyd
deddfau fel mwg o’r aelwyd.
Codwch lusern siarad ar ein cyfer
a gall neidr tywyllwch gynnal y sêr.
Cyhoeddir y gerdd yn gyflawn ar ôl y lansiad.



