Archif Newyddion
Myned y Daith Honno dy Hun?

Bydd Aled Jones-Williams a Wynford Ellis Owen yn trafod alcoholiaeth a chreadigrwydd yng Nghynhadledd yr Academi
Mae ymddiswyddiad sydyn Charles Kennedy, yn sgil eu gyffesiad ei fod wedi brwydro ag alcoholiaeth ers sawl blwyddyn, yn amlygu unwaith eto problem ddifrifol gor-yfed yn niwylliant Prydain. Mae’n salwch sy’n effeithio pob haen o gymdeithas - yn bobl ifainc, arweinwyr pleidiau gwleidyddol a gweinidogion - ac mae awduron efallai yn fwy tebygol nac eraill o syrthio’n gaeth i’r ddiod gadarn.
Bydd cynhadledd yr Academi, Gor Awen, a gynhelir yn Llandudno ar benwythnos 24-26 Chwefror, yn edrych ar effeithiau alcohol a dibyniaeth ar lenyddiaeth. Yn trafod y pwnc yn ddi-flewyn-ar-dafod bydd y Prifardd Aled Jones-Williams, sydd wedi honni na fyddai wedi ennill ei Goron onibai am ei alcoholiaeth, a’r dramodydd Wynford Ellis Owen, a gyhoeddodd hunangofiant dirdynnol yn 2005 sy’n sôn am ei frwydr â’r ddiod gadarn.
Ond dim ond cipolwg sydyn ar un agwedd ar y penwythnos yw hyn. Yn ymuno â nhw yn y Gynhadledd yn ystod y penwythnos bydd y bardd pync a’r artist Stuckist enwog o Loegr, Billy Childish, y nofelwyr Gareth Miles, Bethan Gwanas, Niall Griffiths a James Hawes, cerddoriaeth gan Fflur Dafydd a nifer fawr o gyfranwyr eraill - oll yn trafod agweddau ar y pegwn eithaf mewn llenyddiaeth, ac yn holi pam dewis y llwybr garw?
Gor-Awen / Intoxication: Cynhadledd Ddwyieithog yr Academi, Gwesty’r Esplanade, Llandudno, 24-26 Chwefror 2006. Mae tocynnau - £135 sy’n cynnwys llety am y penwythnos, bob pryd bwyd a holl sesiynau’r gynhadledd - ar gael nawr gan yr Academi ar 029 2047 2266 neu post@academi.org.



