Archif Newyddion
Y PRIFARDD MEI MAC YN YMUNO Â STAFF TŶ NEWYDD

Penodwyd dau gwpl i ofalu am gyrsiau preswyl ysgrifennu creadigol yn Nhŷ Newydd, Y Ganolfan Ysgrifennu Genedlaethol, pan y bydd yn ailagor fis Mawrth eleni. Bydd Meirion MacIntyre Huws a’i bartner, Moira Mai, yn gofalu am gyrsiau Cymraeg, ac Eira a Gwylan Roche yn wardeinio’r cyrsiau Saesneg.
Mae Tŷ Newydd, cartref olaf Lloyd George, ac sydd wedi’i sefydlu fel canolfan i ysgrifenwyr ers 1990, wedi bod ar gau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf tra bu gwaith adnewyddu’n cael ei wneud ar yr adeiladau. Mae’r adeiladwaith hanesyddol bellach wedi’i atgyweirio, gyda chyfleusterau wedi’u gwell’n ddirfawr ac yn cynnwys mynediad ar gyfer yr anabl. Noddwyd y gwaith gan grantiau o Gronfa Loteri Cyngor Celfyddydau Cymru, Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (Cronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewropeaidd, Amcan 1), Cyngor Gwynedd (Cronfa Adfywio Lleol), Cronfa Loteri Treftadaeth, Awdurdod Datblygu Cymru, a chydag arian wedi’i gasglu trwy Apêl Tŷ Newydd.
Mae’r Prifardd Mei Mac yn rhywun sy’n gyfarwydd iawn â Thŷ Newydd. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae wedi tiwtora cyrsiau a chymryd rhan yn y gwyliau a’r digwyddiadau eraill sy’n cael eu trefnu gan y ganolfan, yn arbennig yr g?yl Gynganeddu flynyddol. Bydd ei bartner, Moira Mai, yn cydweithio ag ef ac fe fydd eu cyfrifolebau’n cynnwys arlwyaeth a gofalu am ddiogelwch, lles a chyfforddusrwydd tiwtoriaid a mynychwyr y cyrsiau Cymraeg. Yn ogystal â chynorthwyo i ddatblygu’r rhaglenni gyrsiau, bydd gan Mei Mac hefyd gyfrifoldeb dros sefydlu Rhaglen Dreftadaeth Tŷ Newydd, rhaglen a fydd yn amlygu’r ganolfan a’i gwneud yn fwy hygyrch i’r cyhoedd.
Mae Eira a Gwylan Roche hefyd yn gyfarwydd â Thŷ Newydd. Bu y rhai hynny a fu ar gyrsiau yn ystod haf 2004 yn ddigon ffodus i flasu prydau danteithiol Eira pan fu’n wardeinio dros–dro yn y ganolfan. Mae gan Eira wir ymroddiad i goginio gan ddefnyddio cynnyrch lleol, a hi, ar y cyfan, fydd yn gyfrifol am yr arlwyaeth yn Nhŷ Newydd. Bydd Eira, gyda’i phartner, Gwylan, yn gofalu am y cyrsiau ar y rhaglen Saesneg.
Dywed Sally Baker, Cyfarwyddwr Gweithredol Tŷ Newydd: “Mae hwn yn amser hynod gyffrous a phwysig i’r Ganolfan Ysgrifennu, ac rydym yn falch iawn o gael penodi pobl mor ddawnus fydd yn gefn inni wrth gamu ymlaen i gyfnod newydd yn hanes Tŷ Newydd. Rydym oll yn edrych ymlaen i gydweithio â’n gilydd, a sichrau pharhad llwyddiant y ganolfan.”
Mae rhaglenni gyrsiau 2006 Cymraeg a Saesneg ar gael gan Dŷ Newydd. Ffoniwch 01766 522811 neu ewch i ’r wefan.



