Archif Newyddion
Tri teithiwr talog…

11.30am, dydd Sadwrn 25 Chwefror 2005 yng ngwesty’r Esplanade, Llandudno
Yn ogystal â bod yn un o awduron mwyaf poblogaidd Cymru, mae Bethan Gwanas yn wyneb cyfarwydd fel cyflwynydd y gyfres deithio Ar y Lein ar S4C. Mae’r nofelydd Llion Iwan wedi teithio i bellafion yr Himalaya – ar ei feic. Ac mae’r llenor amryddawn Rocet Arwel Jones wedi mynd i uffern a nôl, diolch i’w drwyn. Mae un peth yn gyffredin rhyngddynt - maent ill tri wedi teithio i fannau anghysbell gan wthio’u ffiniau corfforol a meddyliol i’r eithaf. Byddant yn sgwrsio am eu profiadau yng nghynhadledd yr Academi, Gor-Awen, ac am y llenyddiaeth y maent wedi’i chynhyrchu yn dilyn profiadau o dan yr amodau eithafol hyn.
Ond dim ond cipolwg sydyn ar un agwedd ar y penwythnos yw hyn. Yn ymuno â nhw yn y Gynhadledd yn ystod y penwythnos bydd y bardd pync a’r artist Stuckist enwog o Loegr, Billy Childish, y nofelwyr Gareth Miles, Niall Griffiths a James Hawes, y dramodydd a’r Prifardd Aled Jones Williams a Wynford Ellis Owen, y bardd Ruth Padel, cerddoriaeth gan Fflur Dafydd a nifer fawr o gyfranwyr eraill - oll yn trafod agweddau ar y pegwn eithaf mewn llenyddiaeth, ac yn holi "pam dewis y llwybr garw?"
Dadlwythwch rhaglen lawn yma (pdf)
Gor-Awen / Intoxication: Cynhadledd Ddwyieithog yr Academi, Gwesty’r Esplanade, Llandudno, 24-26 Chwefror 2006. Mae tocynnau - £135 sy’n cynnwys llety am y penwythnos, bob pryd bwyd a holl sesiynau’r gynhadledd - ar gael nawr gan yr Academi ar 029 2047 2266 neu post@academi.org.



