Archif Newyddion
Sgwrsio â Caryl Lewis
11.00 am – 2 Mawrth 2006

Bydd Caryl Lewis, awdur Martha Jac a Sianco, Llyfr y Flwyddyn 2005, yn cymryd rhan mewn sgwrs ar-lein arbennig ar wefan BBC Cymru’r Byd fore dydd Iau, 2 Mawrth 2006. Fel rhan o weithgareddau Diwrnod Cenedlaethol y Llyfr, bydd Caryl yn sgwrsio ar y we rhwng 11.00 y bore a chanol dydd.
Bydd cyfle i bobl ifainc holi’r awdures am ei gwaith a’i llyfrau neu gofyn iddi am gyngor ar sut i fynd ati i ysgrifennu. Does dim rhaid aros tan y diwrnod - gellir gyrru cwestiynau ar e-bost o flaen llaw.
Cliciwch yma i fynd ati i holi Caryl



