Archif Newyddion

Diwrnod Darllenwyr Gogledd Cymru

Bethan Gwanas  Nia Medi  Llion Iwan

Dydd Sadwrn Mawrth 4ydd 2006
Theatr Elwy, Llanelwy

Fe’ch gwahoddir yn gynnes i Ddiwrnod Darllenwyr Gogledd Cymru yn Theatr Elwy, Llanelwy, i ddathlu wythnos Diwrnod y Llyfr 2006.

Ymunwch â’r awduron Bethan Gwanas, Nia Medi, Llion Iwan, Bernard Knight, Frank Cottrell Boyce, a Jane Wenham-Jones mewn jamborî i ddarllenwyr - bydd sesiynnau gr?p darllen gydag awduron, panel drafod a phopeth roeddech angen ei wybod am lyfrau llafar, yn ogystal â Ffair Ddarllenwyr lle cewch chwarae gemau a chwisiau. Bydd y diwrnod yn dangos beth sydd gan lyfrgelloedd i’w gynnig i ddarllenwyr – dewis eang o lyfrau at bob dant, a gweithgareddau cymdeithasol i rannu brwdfrydedd darllen.

Mae croeso cynnes i bawb ddod draw. Os ydych yn ddarllenydd unigol, yn aelod o gr?p darllen neu’n hoffi cyfarfod awduron – beth bynnag rydych chi’n hoffi am ddarllen a llyfrau – bydd croeso cynnes i chi. Bydd y diwrnod yn ddwyieithog felly bydd digon i’w fwynhau.

Dim ond £12 yw’r tocynnau i gynnwys cinio a llyfr am ddim – y dyddiad cau ar gyfer archebion yn Chwefror 10fed, felly archebwch yn gynnar i sicrhau eich lle. Mae manylion am y rhaglen a’r awduron ar y wefan www.sirddinbych.gov.uk/llyfrgelloedd.  Mae taflenni archebu ar gael mewn llyfrgelloedd lleol a siopau llyfrau neu gan Bethan M. Hughes ar 01824 708207 neu bethan.hughes@sirddinbych.gov.uk

Trefnir y digwyddiad hwn gan Wasanaeth Llyfrgell Sir Ddinbych mewn partneriaeth gyda gwasanaethau llyfrgell Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Y Fflint a Wrecsam gyda chefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru, Cyngor Llyfrau Cymru, Academi a’r BBC.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:

Bethan M. Hughes
Ymgynghorydd Llyfrgell
Gwasanaeth Llyfrgell Sir Ddinbych
Yr Hen Garchar, 46 Stryd Clwyd, Rhuthun LL15 1HP
01824 708207
e-bost: bethan.hughes@sirddinbych.gov.uk
www.sirddinbych.gov.uk/llyfrgelloedd