Archif Newyddion
Enillydd Llyfr y Flwyddyn 2005 Ar–lein
11.00 am - 2 Mawrth 2006

Caryl Lewis yn derbyn ei thlws gan Alun Pugh
Bydd Caryl Lewis, awdur Martha Jac a Sianco - Llyfr y Flwyddyn 2005 - yn cymryd rhan mewn sgwrs ar-lein arbennig ar wefan BBC Cymru’r Byd fore dydd Iau, 2 Mawrth 2006. Fel rhan o weithgareddau Diwrnod Cenedlaethol y Llyfr, bydd Caryl yn sgwrsio ar y we rhwng 11.00 y bore a chanol dydd.
Bydd cyfle i bobl ifainc holi’r awdures am ei gwaith a’i llyfrau neu gofyn iddi am gyngor ar sut i fynd ati i ysgrifennu. Does dim rhaid aros tan y diwrnod - gellir gyrru cwestiynau ar e-bost o flaen llaw.
Cliciwch yma i fynd ati i holi Caryl




O dan y Lloer - cerdd newydd y Nadolig gan Gillian Clarke, Bardd Cenedlaethol Cymru