Archif Newyddion

 Cynorthwy–ydd Gweinyddol (rhan amser)

Academi

Mae’r Academi’n chwilio am unigolyn trefnus a brwdfrydig, sy’n gallu gweithio fel rhan o dîm ac ar ei liwt ei hun, i weithio yn ei swyddfa ym Mae Caerdydd. Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol.

Cyflog: £7,000 (17.5 oriau yr wythnos)

Rydym yn chwilio am berson sy’n meddu ar y nodweddion canlynol:

• Sgiliau trefnu effeithiol
• Gwybodaeth a diddordeb yn niwylliant Cymru
• Gallu gweithio mewn awyrgylch swyddfa brysur
• Gallu gweithio dan bwysau
• Yn gyfarwydd â systemau cyfrifiadurol

Dylair ceisiadau gynnwys CV llawn ac enwau dau ganolwr. Dylid eu hanfon at:

Academi, Peter Finch: Prif Weithredwr, Tŷ Mount Stuart, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd CF10 5FQ erbyn 24 Chwefror 2006