Archif Newyddion

Cystadleuaeth Sgwennu Drama Fer Cymdeithas Ddrama Cymru 2006

Yr wythnos hon caiff cystadleuaeth sgwennu drama fer Cymdeithas Ddrama Cymru ei lansio.  Bwriad y gystadleuaeth yw i hyrwyddo sgwennu newydd ar gyfer y llwyfan amatur trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.  Ar gyfer 2006 rydym yn chwilio am ddramâu mewn dau gategori: categori agored a chategori ar gyfer gweithiau sy’n addas i’w perfformio gan ieuenctid 16–25 mlwydd oed.

Bydd y gwaith buddugol ymhob categori yn derbyn £250 a chaiff ei gyhoeddi.

Disgwylir i’r dramâu fod rhwng 20-50 munud o hyd
   Rhaid cynnwys leiaf 2 gymeriad

  • Y ddrama orau ar gyfer cast ifanc (16-25 ml oed) £250
  • Y ddrama orau yn y categori agored £250
  • Bydd y buddugwyr yn derbyn medalau
  • Cyhoeddir y gwaith buddugol gan Cymdeithas Ddrama Cymru

I dderbyn ffurflenni cais cysylltwch â Teresa yn swyddfa Cymdeithas Ddrama Cymru, Caerdydd + 44 29 2045 2200 neu drwy ffacs +44 (0) 20 2045 2277 neu ebost: aled.daw@virgin.net.

Dyddiad cau y gystadleuaeth yw Ionawr 31 2006

Mae’r gystadleuaeth hon yn agored i bawb hyd yn oed y rheiny yn byw y tu allan i Gymru. Rydym yn derbyn gweithiau o ledled y byd.

NODDIR GAN BARCLAYS

Os hoffech ffurflen gais ar gyfer y gystadleuaeth hon neu rhagor o wybodaeth am Gymdeithas Ddrama Cymru cysylltwch â Teresa ar 029 2045 2200 neu ebostiwch: At Sylw Teresa ar y cyfeiriad canlynol: aled.daw@virgin.net.