Archif Newyddion
Cynhadledd undydd: Lle mewn Llenyddiaeth

Canolfan Mileniwm Cymru
16 Mawrth 2006, 2.00-7.00pm
Cymru - defaid, pyllau gwag, tai teras, caeau ŷd, afonnydd gwyllt, arfordiroedd hiraethus, mynyddoedd llwm? Neu fflatiau moethus, bariau trendi, ’sguborau wedi eu haddasu, canolfannau cyfoes, perci llawn pobl?
Cynhelir cynhadledd undydd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ddydd Iau 16 Mawrth 2006 ar y thema Lle mewn Llenyddiaeth - sef sut y mae nofelwyr Cymraeg a Chymreig yn gwneud defnydd o le yn eu gwaith, a sut y diffinir yr ymdeimlad o berthyn i ardaloedd penodol mewn llenyddiaeth. Bydd nifer o awduron mwyaf blaenllaw Cymru’n trafod pwysigrwydd llefydd arbennig yn eu gwaith, ac yn edrych ar y modd y mae lle yn gallu creu llenyddiaeth. Yn eu plith bydd Dylan Iorwerth, Llwyd Owen, Manon Rhys, Caryl Lewis, Daniel Williams, Niall Griffiths, Rachel Trezise, Jim Perrin, Jon Gower a Rocet Arwel Jones.
Rydym yn rhagweld y bydd diddordeb mawr yn y digwyddiad hwn ond yn anffodus dim ond nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael, felly y cyntaf i’r felin. Bydd te a choffi ar gael a cheir derbyniad anffurfiol ar ddiwedd y dydd yng nghyntedd Canolfan Mileniwm Cymru gyda lansiadau’r gyfrol nesaf o Taliesin (gwanwyn 2006) a chyfrol newydd gan y cyhoeddwr Honno.
Os oes diddordeb gennych ddod i’r digwyddiad anfonwch e-bost at post@academi.org erbyn 14 Mawrth 2006.
Trefnir y digwyddiad gan Academi ar y cyd â CCC. Mae’n un o gyfres o seminarau a noddir gan CCC yn 2005-06 ar gyfer y gwahanol ffurfiau ar gelfyddyd. Bwriedir i’r seminarau hyn gyfrannu at drafodaethau ynglŷn â dyfodol arfer a datblygiad y celfyddydau yng Nghymru gan ganolbwyntio’n benodol ar faterion creadigol sy’n gysylltiedig â’r gwahanol ffurfiau ar gelfyddyd. Caiff y traethodau a fydd yn deillio o’r seminarau hyn eu dwyn ynghyd a’u cyhoeddi er mwyn ysgogi trafodaeth bellach.
Amserlen
1.45-2.15pm Cofrestru
2.15-2.25pm Peter Finch & David Alston: croeso a chyflwyniad
2.25-2.45pm Iain Sinclair - darlith yn Saesneg
2.50-3.10pm Dylan Iorwerth - darlith yn Gymraeg
3.15-3.25pm Trafodaeth
3.30-3.45pm Paned
3.50-3.40pm Trafodaethau paneli arwahan
Cymraeg: Rocet Arwel Jones (Cadeirydd), Manon Rhys, Caryl Lewis a Llwyd Owen
Saesneg: Jon Gower (Cadeirydd), Niall Griffiths, Rachel Trezise a Jim Perrin
4.50-5.15pm Sesiwn crynhoi
5.15-6.00pm Derbyniad gwin
6.00-6.50pm Dau ddigwyddiad:
Lansio Taliesin 126 - Rhifyn Gwanwyn 2006 gyda Manon Rhys, Christine James, Catrin Dafydd, Cennard Davies, Llion Pryderi a Llwyd Owen.
Where was Wales? Trafodaeth gyda Leighton Andrews, Jeremy Hooker, Daniel Williams a Jon Gower (Cadeirydd).
7.00-8.00pm Honno yn lansio nofel newydd, The Floristry Commission gan Claire Peate
Gair am y cyfranwyr
Jon Gower – Cadeirydd y panel Saesneg. Cyn ohebydd y BBC ar y Celfyddydau a’r Cyfryngau. Mae nawr yn gweithio’n llaw-rydd. Ysgrifennodd lyfr taith, An Island Called Smith (Gomer, 2001) a chyfrol o straeon byrion, Big Fish (Gwasg Carreg Gwalch, 2000).
Rocet Arwel Jones – Cadeirydd y panel Cymraeg. Bardd, darlledwr ac awdur dau lyfr taith - Diolch i ‘Nhrwyn a Jambo Caribu (cyhoeddwyd y ddau gan y Lolfa) – am ei anturiaethau helbulus ond hwyliog yn India a Kenya.
Iain Sinclair – Ganwyd Iain Sinclair yng Nghaerdydd ac astudiodd yn Nulyn cyn symud i Hackney, dwyrain Llundain. Fel croniclwr lle a seico-ddaearyddwr, mae wedi cyhoeddi nifer o gyfrolau ffeithiol a ffuglennol. Yn eu plith mae: Downriver (enillodd Wobr Goffa James Tait Black), Landor’s Tower; London Orbital (y ddau gan Granta) ac Edge of the Orison (Hamish Hamilton, 2005).
"Wales has been begging to be invented for some time by a writer of his calibre and Sinclair pulls out all the apocalyptic imagery at his disposal to do just that. This is Wales seen from a car driven by Hunter S. Thompson with Joseph Conrad and Alan Ginsberg as passengers." - Russell Celyn Jones (wrth adolygu Landor’s Tower), The Times
Dylan Iorwerth – Newyddiadurwr, bardd ac awdur. Ganwyd yn Nolgellau, a’i fagu yn Waunfawr, ac mae bellach yn byw yn Llanwnnen, Ceredigion. Ef oedd gohebydd seneddol BBC Cymru yn Llundain cyn sefydlu’r cylchgrawn Golwg. Enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli yn 2000 a’r Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri a’r Cyffiniau yn 2005 am ei gyfrol Darnau (Gwasg Gwynedd 2005)
Manon Rhys - Awdur, golygdd a thiwtor. Fe’i ganwyd yn Nhrealaw, ei haddysgu yn y Rhyl ac Aberystwyth ac mae hi bellach yn byw yng Nghaerdydd. Mae’n awdur sawl nofel a lleolwyd ei nofel ddiweddaraf, Rara Avis (Gomer, 2005) yng Nghwm Rhondda. Mae hi’n sgriptio i raglen Pobl y Cwm a hi oedd cyd-awdur y gyfres ddrama boblogaidd, Y Palmant Aur. Hi hefyd yw cydolygydd y cylchgrawn llenyddol Taliesin.
Caryl Lewis – Magwyd Caryl yn Aberaeron a graddiodd o Brifysgol Durham a Phrifysgol Cymru Aberystwyth. Mae hi wedi cyhoeddi nofelau i blant ac oedolion – enillodd Iawn Boi? (Y Lolfa 2003) wobr Tir na n-Og yn 2004 ac enillodd Martha Jac a Sianco wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2005.
Llwyd Owen – Ganwyd Llwyd Owen yng Nghaerdydd a threuliodd dair blynedd ym Mangor a dwy flynedd yn teithio’r byd. Cafodd ei addysgu yn Ysgol Gyfun Glantaf a Phrifysgol Bangor ac ar hyn o bryd mae’n gweithio ym myd y cyfryngau yng Nghaerdydd, ac hefyd fel ffotograffydd a DJ. Ffawd, Cywilydd a Chelwyddau (Y Lolfa, 2006) yw ei nofel gyntaf.
Niall Griffiths – Ganwyd yn Lerpwl yn 1966 a bu’n byw yng Nghymru ers deng mlynedd. Mae wedi cyhoeddi pum nofel ac mae’n diwtor ysgrifennu creadigol ledled Ewrop. Enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2004 am ei nofel Stump (Jonathan Cape, 2004). Ei nofel ddiweddaraf yw Wreckage (Jonathan Cape, 2005).
Rachel Trezise – Awdur a Newyddiadurwr. Ganwyd yng Nghwm Rhondda yn 1978. Astudiodd ym Mhrifysgol Morgannwg a Phrifysgol Limerick. Enillodd ei nofel gyntaf, In and Out of the Goldfish Bowl (Parthian, 2002), le ar Restr Hir Gwobr Orange Futures yn 2002. Ei llyfr diweddaraf yw Fresh Apples (Parthian, 2005).
Jim Perrin – Awdur, darlledwr a ffotograffydd. Cyhoeddwyd hanes ei daith ar gefn Harley ar draws yr UDA, High on the Hog, yn y Daily Telegraph. Enillodd ei gofiant, Menlove: Life of John Menlove Edwards (The Ernest Press, 1993), wobr Boardman Tasker, fel pob un o’i gyfrolau ers hynny. Mae ei lyfrau eraill yn cynnwys Travels with the Flea: And Other Eccentric Journeys (The In Pinn, 2002).
Leighton Andrews – Aelod y Cynulliad dros y Rhondda a etholwyd gyntaf ar 1 Mai 2003. Cafodd ei eni yng Nghaerdydd ac astudiodd ym Mhrifysgol Cymru, Bangor a Phrifysgol Sussex. Ef yw cyn-bennaeth materion cyhoeddus y BBC ac mae’n darlithio yn Ysgol Newyddiaduraeth Prifysgol Caerdydd. Mae’n briod a chanddo ddau o blant ac ef oedd un o sylfaenwyr yr ymgyrch Ie Dros Gymru.
Daniel Williams – Mae Daniel Williams diwtor llenyddiaeth Saesneg yn Nghymru, Gwyddeleg a llenyddiaeth Affricanaidd America ym Mhrifysgol Cymru, Abertawe. Ef yw Cyfarwyddwr Cynorthwyol y Ganolfan Ymchwil i Lên ac Iaith Saesneg Cymru (CREW). Cyhoeddodd gasgliad o ysgrifau gan Raymond Williams am Gymru, Who Speaks for Wales: Nation, Culture, Identity (Gwasg Prifysgol Cymru, 2003). Mae’n aelod o banel beirniaid Saesneg gwobr Llyfr y Flwyddyn eleni.
Jeremy Hooker – Mae Jeremy Hooker yn athro Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Morgannwg. Yn ogystal â chyhoeddi beirniadaethau lenyddol, gan gynnwys Writers in a Landscape (1996) a monograffau am David Jones a John Cowper Powys, mae wedi cyhoeddi deg cyfrol o farddoniaeth. Ymhlith ei gyhoeddiadau diweddaraf mae Imagining Wales: A View of Modern Welsh Writing in English (Gwasg Prifysgol Cymru, 2001)



