Archif Newyddion


Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn 2006 ar Y Sioe Gelf
Nos Fercher 29 Mawrth 2006 – S4C, 9.30 pm

Omlet gan Nia Medi    Y Gongol Felys gan Meinir Pierce Jones

Nos Fercher yma bydd Catrin Beard, Cadeirydd Panel Beirniaid Cymraeg Llyfr y Flwyddyn 2006 yn cynnig golwg ar ddwy o’r cyfrolau y dewisodd hithau a’i chyd-feirniaid - Y Prifardd Ieuan Wyn ac Elan Closs Stephens - i fod ar y Rhestr Hir 2006.

Bydd cyflwynwraig bresennol Y Sioe Gelf, Luned Emyr a Catrin Beard, cyn-gyflwynwraig y gyfres, yn trafod Omlet gan Nia Medi (Gwasg Gwynedd, 2005) ac Y Gongol Felys gan Meinir Pierce Jones (Gwasg Gomer, 2005). Ceir golwg ar fwy o gyfrolau yn ystod y gyfres.
Y cyfrolau eraill ar Restr Hir Llyfr y Flwyddyn 2006 yw:
Yng Ngolau’r Lleuad: Ffaith a Dychymyg yng Ngwaith Caradog Prichard gan Menna Baines
I Fyd Sy Well gan Sian Eirian Rees Davies
Gwynfor: Rhag Pob Brad gan Rhys Evans
Llên yr Uchelwyr: Hanes Beirniadol Llenyddiaeth Gymraeg 1300-1525 gan Dafydd Johnston
Clirio’r Atig a Cherddi Eraill gan Alan Llwyd
Digon o Fwydod gan Mihangel Morgan
Oni Bai… gan Eigra Lewis Roberts
Rara Avis gan Manon Rhys
Llyfr y Flwyddyn 2006