Archif Newyddion
G?yl y Cyfarwydd 2006

‘Mae crefft y Cyfarwydd yn fyw iawn yng nghefn gwlad Cymru.’ Dyna farn Michael Harvey, y storiwr proffesiynol a fydd yn rhan annatod o ?yl y Cyfarwydd a gynhelir yng Ngheredigion, yr wythnos hon, Ebrill 8 – 15 2006. Medd Michael, a oedd hefyd yn rhan o’r ?yl gyntaf y llynedd : ‘Mae nifer y storiwyr dawnus a hyderus sydd wedi dod i’r amlwg yn sgîl gweithgaredd G?yl y Cyfarwydd yn fy rhyfeddu. Ac nid ymhlith y genhedlaeth hyn yn unig. Wrth weithio mewn ysgolion mae gweld disgyblion mor ifanc â deg neu unarddeg oed nid yn unig yn byrlymu â’r angerdd i ddweud, ond hefyd yn arbrofi â thechnegau adlonni eu cynulleidfa yn argoeli’n wych i’r dyfodol.
Eleni, torrodd ?yl y Cyfarwydd dir newydd wrth gynnal cystadleuaeth agored i ddarganfod y storiwr gore. STOMP Y STORIWR oedd teitl y noswaith a gynhaliwyd yn Nhafarn Cefn Hafod, Gorsgoch, nos Sadwrn diwethaf.
Am ragor o fanylion am yr ?yl, cysylltwch â:
Swyddfa Wes Glei cyf…Campws Felin–fach…Dyffryn Aeron…Ceredigion…SA48 8AF...01570 471328 / 07813 173155 / euros@yffwrwm.com
Neu ewch i wefan G?yl y Cyfarwydd.



