Archif Newyddion
Cynllun Hei Hogia! 2006 – Annog Darllenwyr Anfoddog

Mae cynllun Hei Hogia! wedi profi’n llwyddiant ysgubol yn ystod y bum mlynedd ddiwethaf, gan fod amryw o actorion adnabyddus Cymru wedi gosod sylfeini cadarn i Hei Hogia! yn eu dull amryddawn eu hunain.
Bwriad Hei Hogia! yw annog a hybu plant 13 oed i ddarllen, yn enwedig bechgyn. Dengys ffigyrau fod plant a phobol yn darllen llai nag erioed ac mae’r cynllun hwn yn ceisio taclo’r broblem drwy gynnig sioe neu brofiad byw i’r plant, fydd yn eu hysbrydoli i fynd i ddarllen.
Her yr actorion – sef Dewi Rhys, Emyr Gibson a Manon Ellis (un o sêr Rownd a Rownd) eleni - fydd darbwyllo’r plant fod darllen yn c?l a bod cael eich dal â llyfr yn eich llaw yn OK. Dewiswyd wyth nofel yn Gymraeg a Saesneg, sef: Isio Bet (Bedwyr Rees), Dawnsio Gwirion a’r Duw Rhyw (Sian Summers), Aminah a Minna (Gwyneth Glyn), Uffar o Gosb (Sonia Edwards), The Hunted (Alex Shearer), Bloodfever (Charlie Higson), Keeping Secrets (Sue Barrow) a Looking for JJ (Anne Cassidy).
Bydd yr actorion yn ymweld a phedwar o Glybiau Ieuenctid Gwynedd – Clwb Trefor ar 27 Mawrth am 7:30pm yn y Neuadd Bentref, yn y Ganolfan Gymdeithasol ym Mlaenau Ffestiniog ar 28 Mawrth am 7:00pm, yng Nghanolfan Ieuenctid Dolgellau ar 29 Mawrth am 7:30pm ac yn Ysgol Uwachradd Brynrefail ar 30 Mawrth am 7:00pm - cyn mynd ar daith o gwmpas 14 o Ysgolion Uwchradd Gwynedd rhwng 3 a 7 Ebrill 2006.
Noddir cynllun Hei Hogia! gan Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol, CAE, Academi a Chyngor Gwynedd. Gweithredir cynllun Hyrwyddo Llenyddiaeth Gwynedd, sef cynllun ar y cyd gan yr Academi a Chyngor Gwynedd.
Am ragor o fanylion, cysylltwch â:
Gwen Lasarus
Hyrwyddwraig Llenyddiaeth Gwynedd
01286 679465
e-bost GwenLasarus@gwynedd.gov.uk



