Archif Newyddion

DATHLU AILAGOR CANOLFAN YSGRIFENNU

Ty Newydd
Plant Ysgol Llanystumdwy

Ar ddydd Sadwrn, Mai 6ed, bydd Tŷ Newydd, y Ganolfan Ysgrifennu Genedlaethol yn dathlu ailagor. Bydd cerddoriaeth, yn amrywio o glasurol i Bob Delyn, bwyd a siampên, ac wrth gwrs fe fydd barddoniaeth. Mae beirdd ac awduron o Gymru a thu hwnt sydd wedi bod ynglwm â’r ganolfan yn ystod yr un mlynedd ar bymtheg diwethaf wedi cael gwahoddiad i ymuno â Sally Baker a’i staff i ddathlu eu llwyddiant.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae’r ganolfan wedi elwa o gynllun adnewyddu gwerth £2 filiwn. Noddwyd y cynllun gan Gronfa Loteri Cyngor Celfyddydau Cymru, Cronfa Loteri Treftadaeth, Arian Ewropeaidd (Amcan 1), Cyngor Gwynedd ac Awdurdod Datblygu Cymru. Golyga’r gwaith fod y ganolfan nawr yn gallu cynnig darpariaeth ar gyfer yr anabl a gwell cyfleusterau ar gyfer pawb sy’n mynychu’r cyrsiau. Mae’n cynnig cyrsiau preswyl yn Gymraeg a Saesneg ar bob agwedd o ysgrifennu creadigol, o ganu caeth i sgriptio ar gyfer y teledu, ac mae wedi datblygu i fod yn adnodd pwysig ar gyfer sgwenwyr. Mae bellach yn agored trwy gydol y flwyddyn. Lleolir Tŷ Newydd yn Llanystumdwy ger Cricieth yng ngartref olaf David Lloyd George, cyn brif weinidog Prydain ac mae’n adeilad rhestredig sydd o ddiddordeb pensaernïol yn ogystal â hanesyddol.

Bydd y ganolfan yn cael ei hailagor yn swyddogol am 3:30 y pnawn gan yr Athro Dai Smith, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru. Cyfranwyr eraill fydd Bardd y Brifddinas, Gillian Clarke, Alun Fred AC, Peter Finch, prif weithredwr Academi a nifer o sgwenwyr eraill gan gynnwys Jan Morris, Twm Morys, Bethan Gwanas a Menna Elfyn. Bydd plant ysgol Llanystumdwy, a fu’n rhan o brosiect celf ar waith gwydr y conserfatori newydd yno hefyd. Bydd marcî ar y lawnt, bwffe a pharti gyda’r grup Bob Delyn i orffen y noson.

“Mae ailagor a chroesawu sgwenwyr a darpar sgwenwyr yn ôl i’r adeilad gyda’i adnoddau newydd gwych yn benllanw i flynyddoedd lawer o waith caled”, meddai Sally Baker, sydd wedi bod gyfrifol am Dŷ Newydd ers 1990. “Bydd yn ddiwrnod i ddathlu ac yn ddiwrnod i ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan mewn amrywiol ffyrdd yn ystod y blynyddoedd o’r  ganolfan a’r cynllun adnewyddu.”

Mae nifer o’r cyrsiau ar raglen 2006 bellach yn llawn, ond mae yna lefydd gwag ar gyrsiau eraill. Mae’r rhaglen lawn o gyrsiau ar gael o’r ganolfan trwy ffonio 01766 522 811 neu trwy ymweld â’r safle we www.tynewydd.org

Gellir cael mwy o wybodaeth am Dŷ Newydd ac am yr Agoriad Swyddogol trwy gysylltu â Sian Northey ar 01766 523 237.