Archif Newyddion
NOSON FAWREDDOG Y BEIRDD
Penwythnos Cenedlaethol Melinau

Ar nos Wener, 12fed o Fai am 7 o’r gloch yr hwyr, cynhelir Talwrn Mawreddog y Beirdd ar Ynys Môn. Tudur Dylan Jones yw’r Meuryn fydd yn cadw trefn ar y beirdd a ganlyn: Mererid Hopwood, Mei Mac, Sian Northey, Iwan Llwyd, Twm Morys, Rhys Dafis, Karen Owen, Andrea Parry, Ifan Prys, Arwel Roberts (Pod), Machraeth o dîm talwrn Y Monwyr, a John–Glyn Jones o dîm talwrn Y Berwyn.
Yn dilyn y talwrn fe fydd Tecwyn Ifan yn chwarae’i gerddoriaeth unigryw. Bydd bar ar gael.
Pris tocyn yw £7, ar gael gan Oriel Ynys Môn, Llangefni 01248 724444; Melin Llynnon, Llanddeusant 01407 730797 neu’r Academi: swyddfa’r Gogledd 01766 522817
Trefnwyd a noddwyd y digwyddiad hwn gan Oriel Ynys Môn ac Academi (www.academi.org ).
Penwythnos Cenedlaethol Melinau
Fe fydd y noson hon yn cymryd lle mewn pabell fawr braf ar dir Melin Llynnon yn Llanddeusant. Rhan o ddathliadau Penwythnos Cenedlaethol Melinau 12-14 Mai eleni.
Digwyddiad nos Sadwrn – Margaret Williams a’i gwesteion: Hogia’r Ddwylan, Annette Bryn Parri, Huw Euron (Darren – Pobol y Cwm), John Pierce Jones (Mr Picton – C’mon Midffild) ac Ifan Gruffydd. 7 o’r gloch. Pris tocyn: £10
Melin Llynnon - Adeiladwyd Melin Llynnon yn 1775 - 1776 ar gôst o dros £550 a fuodd yn gweithio hyd 1918 pan gafodd y felin ei difrodi yn ystod storm difrifol. Yn 1978 prynwyd y felin gan Gyngor Bwrdeistref Ynys Môn a pharatowyd cynllun i adnewyddu’r felin i gyflwr gweithio. Cyflogwyd arbenigwyr o swydd Lincoln i’n cynghori gyda’r gwaith ac ailagorwyd y felin yn 1984. Mae yn awr yn cynhyrchu blawd gwenith cyflawn ar gyfer ei werthu.
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am Felin Llynnon.
Penwythnos Cenedlaethol Melinau – cliciwch yma am ragor o wybodaeth.



