Archif Newyddion
Gwyl Bedwen Lyfrau

28ain, 29ain, 30ain o Ebrill 2006
Galeri Caernarfon
BEDWEN LYFRAU – cangen o Barcelona ar lannau Menai
Ddiwedd Ebrill eleni bydd Barcelona yn cyrraedd glannau Menai. Ar benwythnos Gwyl Fai, bydd gwyl lyfrau llawn o bob math o adloniant a difyrrwch i’r teulu cyfan – Bedwen Lyfrau – yn hyrwyddo gwerthu llyfrau Cymraeg yn cael ei chynnal yn y Galeri, Caernarfon.
Bydd nifer o lyfrau newydd ac amrywiol yn cael eu lansio a’u cyflwyno i’r cyhoedd am y tro cyntaf; bydd sesiynau i’r plant lleiaf, perfformiadau a chyflwyniadau i blant cynradd a disgyblion uwchradd, sgyrsiau ac adloniant i oedolion. Bydd siop lyfrau Palas Print yn gwerthu’r holl gynnyrch newydd a bydd yr awduron wrth law am air a llofnod. Ar ben hynny bydd stondinau gan gwmniau a chymdeithasau eraill a byrddau bargen gan y gweisg mwyaf poblogaidd, yn cynnig prisiau gostyngol, anhygoel ar lawer o deitlau apelgar. Trefnir yr wyl gan Gwlwm Cyhoeddwyr Cymru drwy gydweithrediad Palas Print, Galeri, Gwasanaeth Llyfrgelloedd Gwynedd, Cyngor Llyfrau Cymru ac Academi.
Bydd yr wyl yn dechrau ar nos Wener yr 28ain o Ebrill gyda chyngerdd ‘Degawd Bob Deng Munud’. Sioe wedi ei seilio ar Llyfr y Ganrif o’r Lolfa yn cyflwyno rhai o brif ddigwyddiadau, cerddi, cyfrolau, dramâu a chaneuon gwahanol ddegawdau’r ugeinfed ganrif. Bydd yn sioe fywiog, yn defnyddio adnoddau’r theatr i’r eithaf gydag adloniant o’r safon uchaf yng nghwmni nifer o sêr Cymru.
Wedi diwrnod llawn o weithgareddau yn y Galeri ar ddydd Sadwrn, bydd Pybcrol Llenyddol Caernarfon yn cael ei gyflwyno am y tro cyntaf y noson honno. Mae cysylltiadau llenyddol Caernarfon yn lleng a’r straeon difyr a doniol weithiau yn ddeunydd noson i’w chofio. Bydd taith o gwmpas y dref, gydag ambell hoe hamddenol, yng nghwmni actorion a pherfformwyr fydd yn rhannu’r perlau fesul peint. Y gobaith yw y bydd y daith hon yn parhau yn y dref dros fisoedd cyntaf yr haf gan roi cyfle i griwiau eraill gael blas arni.
Ar bnawn Sul bydd Dechrau Canu Dechrau Canmol yn recordio cymanfa arbennig yn Galeri ac unwaith eto, bydd llyfr yn ganolog i’r gweithgareddau. Llyfrau’r Beibl fydd y thema y tro hwn – perfformiadau ac emynau yn dathlu’r themâu oesol hynny.
TOCYNNAU I’R WYL AR GAEL GAN Y GALERI, CAERNARFON :
01286 685222 neu post@galericaernarfon.com
Nos Wener, 28ain o Ebrill 8.00 yh
Degawd Bob Deng Munud
Noson o adloniant yn dathlu rhai o lyfrau Cymraeg mwyaf dylanwadol yr ugeinfed ganrif. Darlleniadau, perfformiadau, caneuon a dawns:
Sian James, Mim Twm Llai, Ffion Dafis, Iwan Llywelyn Jones, Ifor ap Glyn,
Llion Williams, Genod Droog ac eraill. Cyfraniadau gan Daniel Evans, Hywel Teifi Edwards, Manon Rhys, Meg Elis, Alan Llwyd, Dylan Iorwerth, Beti George ac eraill. Cyflwynwyr: Luned Emyr, Gwion Hallam
Tocynnau £10
(ynghyd â gostyngiadau arferol y Galeri)
* Bydd y noson yn cael ei recordio ar gyfer S4C gan Cwmni DaDydd Sadwrn, 29ain o Ebrill 10.00 yb – 6.00 yh
Gwyl Bedwen Lyfrau
Lansiadau, sgyrsiau difyr, sesiynau awduron, sgwadiau sgwennu i’r ifanc, adloniant i blant, ffair stondinwyr, siop lyfrau a byrddau bargen…
Tocynnau: £1 am y diwrnod cyfan
Nos Sadwrn, 29ain o Ebrill am 7.30
Pybcrol Llenyddol Caernarfon
Gadael Bar Bach y Blac Boi am 7.30pm. Llion Williams yn tywys y daith wlybyddol, gan orffen yn y Blac yng nghwmni Geraint Løvgreen, Ifor ap Glyn ac Iwan Llwyd am 10.30pm.
Prynhawn Sul, 30ain o Ebrill 2.00 yp – 4.00yp
Dechrau Canu Dechrau Canmol – Taith drwy lyfrau’r Beibl
Tocynnau: £2 (£1 gostyngiadau)
• Bydd y gymanfa yn cael ei recordio ar gyfer S4C
RHAI O LANSIADAU BEDWEN LYFRAU.
Crefftwyr Llechi – Alun John Richards (Gwasg Carreg Gwalch)
Darlun o fywyd a chrefftwaith creigwyr, holltwyr a naddwyr y chwarel a chyflwyniad i rai crefftwyr sy’n trin y llechfaen heddiw.
Llwyau Traddodiadol – Gwyndaf Breese (Gwasg Carreg Gwalch)
Un o grefftwyr gorau’r Amgueddfa Werin yn Sain Ffagan yn cyflwyno studiaeth oes o naddu llwyau cegin a llwyau caru Cymreig, gyda chyflwyniad i’r crefftwyr sydd wrthi heddiw.
Ble Wyt ti Rhwng (Hanes Canu Poblogaidd Cymraeg o 1980 - 2000) – Hefin Wyn (Y Lolfa)
Hanes canu pop Cymraeg o ddechrau’r ‘80’au hyd ddechrau’r mileniwm – dilyniant i
Be Bop a Lula’r Delyn Aur.
Ein Rhyfel Ni – Mair Wynn Hughes (Gwasg y Bwthyn)
Ffuglen gan y nofelwraig doreithiog ar gyfer plant oedran cynradd hwn.
Y Golygiadur – Dr Rhiannon Ifans (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion)
Dyma arf angenrheidiol ac awdurdodol i bawb sy’n ymwneud â pharatoi testun Cymraeg o unrhyw fath. Cynigia’r Golygiadur ganllawiau a chyfarwyddyd i awduron, golygyddion, cysodwyr, argraffwyr a dylunwyr. Delia ag anghenion unigryw a phenodol ysgrifennu yn Gymraeg, a thrwy’r Mynegai ceir atebion ar faterion iaith, gramadeg ac arddull, ynghyd ag arferion penodol golygu.
Am Ddawn – Hugh John Hughes (Cyhoeddiadau’r Gair)
Bob Dydd Gyda Iesu – Meirion Morris (Cyhoeddiadau’r Gair)
Pobl y Ffordd – Alun Tudur (Cyhoeddiadau’r Gair)
Pybcrol Llenyddol Caernarfon (gol. Myrddin ap Dafydd; Gwasg Carreg Gwalch, £6)



