Archif Newyddion
Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn 2006 ar
Annedd y Cynganeddwyr
Mae Pôl Piniwn mis Ebrill gwefan Annedd y Cynganeddwyr – www.cynghanedd.com - yn rhoi cyfle i chi bleidleisio dros un gyfrol o blith y deg ar y Rhestr Hir eleni sydd yn haeddu cael ei gwobrwyo’n Llyfr y Flwyddyn 2006.
Cliciwch www.cynghanedd.com er mwyn bwrw’ch pleidlais chi heddiw.
Tybed a fyddwch chi yn cytuno â’r beirniaid Catrin Beard, Elan Closs Stephens a’r Prifardd Ieuan Wyn? Dewch i Seremoni Wobrwyo Llyfr y Flwyddyn yng Ngwesty’r Hilton, Caerdydd nos Fawrth 11 Gorffennaf 2006 i weld pa awdur fydd yn gadael â siec o £10,000 yn yr amlen aur.
Rhagor o fanylion gan Academi: post@academi.org / 029 2047 2266




