Archif Newyddion


Encil gyda John Latham – Cynnig Arbennig
17-25 Ebrill 2006, Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd

Tŷ Newydd

Gan fod Tŷ Newydd a’r Academi yn gweithio mewn partneriaeth mae’r Ganolfan Ysgrifennu Genedlaethol yn cynnig llefydd munud olaf am hanner pris i aelodau’r Academi.

Ebrill 17-21 2006
Encil yn Nhŷ Newydd gyda John Latham yn fardd ac awdur preswyl. Gyda chroeso cynnes i rai sydd yn ysgrifennu yn y Gymraeg neu’r Saesneg fynychu’r encil yma.
Pris arbennig i aelodau’r Academi yw £165 am yr wythnos (yn hytrach na’r pris arferol o £325)

Ceir rhagor o fanylion am yr encil ar wefan Tŷ Newydd: www.tynewydd.org

Nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael felly cysylltwch â Thŷ Newydd ar unwaith i fanteisio ar y cynnig gwych yma: 01766 522 811 neu post@tynewydd.org

Mae Tŷ Newydd wedi bod ar gau ers deunaw mis yn sgil gwaith adnewyddu ac adeiladu. Bellach mae’r tyˆ hanesyddol sy’n dyddio’n rhannol ô’r unfed ganrif ar bymtheg ac yn gartref olaf i Lloyd George wedi ail-agor gyda chyfleusterau cynhwysfawr ar gyfer yr anabl a chyfleusterau gwych ar gyfer tiwtoriaid a mynychwyr cyrsiau.

Tŷ Newydd, Llanystumdwy, Cricieth, Gwynedd LL52 0LW
Ffôn: 01766 522811   Ffacs: 01766 523095
post@tynewydd.org    www.tynewydd.org

Ty Newydd