Archif Newyddion


Cyfle i drafod Rara Avis yng nghwmni Manon Rhys

Rara Avis (Gomer,2005)

Dydd Mercher, 24 Mai 2006
7.00 pm, Canolfan Glyn Jones – Canolfan Mileniwm Cymru

Cyfle i drafod Rara Avis - sydd ar Restr Hir Llyfr y Flwyddyn 2006 - yng nghwmni’r awdur Manon Rhys mewn digwyddiad arbennig yng Nghanolfan Glyn Jones yr Academi. Dewch i’r Bae i glywed Manon yn sgwrsio am ei chyfrol a chewch gyfle i’w holi.

Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim - am ragor o wybodaeth cysylltwch â’r Academi:
029 2047 2266 / post@academi.org

Nofel wedi ei lleoli yn un o bentrefi Cwm Rhondda yn yr 1950au yw Rara Avis. Mae’n portreadu hapusrwydd a thristwch merch ddeg oed sy’n cofnodi ei gweithgareddau a’i hemosiynau, a’i pherthynas gymhleth gyda chyfoedion ac oedolion, yn arbennig ei pherthynas gyda’i mam alcoholig ac emosiynol ansefydlog. Prynwch gopi o Rara Avis ar gwales.com

Manon RhysMae Manon Rhys yn enedigol o Gwm Rhondda. Mae’n awdur sawl nofel a chyfrol o straeon byrion, yn sgriptwraig cyfresi teledu poblogaidd megis Y Palmant Aur a Pobol y Cwm ac yn diwtor sgriptio ac ysgrifennu creadigol. Hi hefyd yw cydolygydd y cylchgrawn llenyddol Taliesin.

Llyfr y Flwyddyn 2006