Archif Newyddion
Y Rhestr Fer: Tynnu Tair Cyfrol i’r Brig

Cyhoeddi Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn 2006
yng Ng?yl Y Gelli Gandryll (y Review Studio)
Dydd Llun 29 Mai 2006 – 1.00pm
Pwy fydd yr awduron gaiff gamu ar lwyfan G?yl y Gelli wedi i Catrin Beard a John Sam Jones gyhoeddi penderfyniadau’r ddau banel o feirniaid ynglŷn â’r 3 cyfrol Cymraeg a’r 3 Saesneg sydd ar Restr Fer Llyfr y Flwyddyn 2006? Ymunwch â Jon Gower wrth iddo holi’r chwe awdur am eu profiadau wrth greu’r cyfrolau dan sylw. Byddwch yno i weld pwy yw’r ceffylau blaen yn y ras i ennill y £10,000.
Tocynnau - £5.00 ar gael o swyddfa docynnau G?yl y Gelli: 0870 9901 299
1.00pm, 29 Mai 2006 yn y Review Studio
Gyda derbyniad gwin a sesiwn llofnodi llyfrau ar stondin Llenyddiaeth yng Nghymru i ddilyn.
Gweinyddir gwobr Llyfr y Flwyddyn gan yr Academi gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru a Chyngor Llyfrau Cymru.



