Archif Newyddion


Y Rhestr Fer: Tynnu Tair Cyfrol i’r Brig

Llyfr y Flwyddyn

Cyhoeddi Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn 2006
yng Ng?yl Y Gelli Gandryll (y Review Studio)

Dydd Llun 29 Mai 2006 – 1.00pm

Pwy fydd yr awduron gaiff gamu ar lwyfan G?yl y Gelli wedi i Catrin Beard a John Sam Jones gyhoeddi penderfyniadau’r ddau banel o feirniaid ynglŷn â’r 3 cyfrol Cymraeg a’r 3 Saesneg sydd ar Restr Fer Llyfr y Flwyddyn 2006? Ymunwch â Jon Gower wrth iddo holi’r chwe awdur am eu profiadau wrth greu’r cyfrolau dan sylw. Byddwch yno i weld pwy yw’r ceffylau blaen yn y ras i ennill y £10,000.

Tocynnau - £5.00 ar gael o swyddfa docynnau G?yl y Gelli:  0870 9901 299

1.00pm, 29 Mai 2006 yn y Review Studio

Gyda derbyniad gwin a sesiwn llofnodi llyfrau ar stondin Llenyddiaeth yng Nghymru i ddilyn.

Gweinyddir gwobr Llyfr y Flwyddyn gan yr Academi gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru a Chyngor Llyfrau Cymru.