Archif Newyddion


Celfyddydau yn y Cynulliad

Dydd Mawrth 6 Mehefin 2006
5.30pm – 7.00pm
Senedd y Cynulliad, Bae Caerdydd

Catrin Dafydd     Hywel Griffiths     Mari Siôn

Fel rhan o gyfres Celfyddydau yn y Cynulliad a gydlynnir gan Celfyddydau & Busnes Cymru fydd chwech o feirdd ifainc gorau Cymru yn perfformio yn Senedd y Cynulliad ddydd Mawrth 6 Mehefin.

Bydd Grahame Davies yn cyflwyno rhai o sêr llenyddol y dyfodol mewn digwyddiad dwyieithog fydd yn bwrw golwg ddychanol a digrif ar y Senedd ac ar fywyd gwleidyddol Cymru.  Dewch i glywed Catrin Dafydd, Hywel Griffiths, Mari Siôn, Zoë Brigley, Anna Lewis ac Hangetsu yn mynegi eu barn heb ei sensro ar Gymru gyfoes.

Noddir y digwyddiad gan West Coast Energy.

Mynediad am ddim
Darperir lluniaeth ysgafn

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â’r Academi
029 2047 2266 neu post@academi.org