Archif Newyddion
Hen Wlad Fy Nhadau – Pen Blwydd 150

Fe gyfansoddwyd Hen Wlad Fy Nhadau ym Mhontypridd ym 1856 gan Evan James, a ysgrifennodd y geiriau , a’i fab James James a gyfansoddodd y gerddoriaeth. Ceir rhaglen o ddathliadau 150 mlwyddiant ym Mhontypridd islaw.
Hanes
Fe gafodd Evan James ei eni yng Nghaerffili ym 1809. Buodd e a’i deulu yn byw mewn sawl lle yng Nghwm Rhymni cyn symud i Bontypridd ym 1847. Roedd y dref yn tyfu, ac fe sicrhaodd brydles ar ffatri wlân fechan yn Stryd y Felin. Roedd e’n barod wedi gwneud enw iddo’i hun yn lleol fel bardd, ac fe ddaeth ei fab yn delynor a thafarnwr.
Mae’r stori adnabyddus am gyfansoddi Hen Wlad Fy Nhadau yn sôn am fel y cafodd James yr awen wrth gerdded ar lan yr afon Rhondda, a gofynnodd i’w dad ysgrifennu penillion gwladgarol addas. Fodd bynnag, mae’r stori a ddeilliodd o gangen Americanaidd y teulu yn ein helpu i ddeall yr hyn oedd ar feddwl Evan James wrth iddo ysgrifennu geiriau’r farddoniaeth. Roedd dau o’i frodyr wedi ymfudo i’r Unol Daleithiau ac wedi gwneud yn dda. Roedd un ohonynt wedi ysgrifennu at Evan yn argymell y dylai fynd â gweddill y teulu drosodd. Felly, ysgrifennodd Evan y geiriau i egluro pam y penderfynodd aros yn ei wlad ei hun oedd yn annwyl iawn iddo.
Mae ei benillion yn emyn i barhad a goroesiad cenedl fechan er gwaethaf pob disgwyl.
Chafodd Hen Wlad Fy Nhadau mo’i hysgrifennu yn arbennig fel Anthem Genedlaethol, ond yn fuan cafodd fri yn yr Eisteddfod Genedlaethol a thrwy gael ei chanu yn yr Eisteddfod y daeth yn boblogaidd. Erbyn marwolaeth Evan James ym 1878 roedd ei gân wedi dod yn anthem i ni, nid oherwydd bod rhyw sefydliad llywodraethol wedi dweud, ond oherwydd bod y Cymry eisiau hynny.
Cafodd fersiwn Llydaweg o Hen Wlad Fy Nhadau ei mabwysiadu fel anthem Llydaw ym 1902; ac mae hefyd wedi cael ei chyfieithu i’r Gernyweg.
RHAGLEN O DDATHLIADAU
Mae Cyngor Tref Pontypridd yn cefnogi’r rhaglen hon o ddigwyddiadau dathliadol.
Gwener, Mehefin 9fed - Cymanfa Ganu
Mae Clwb Rotari, Pontypridd yn eich gwahodd i noswaith o ganu mawl yn Eglwys Unedig Dewi Sant, Heol Gelliwastad, Pontypridd am 7.00pm. Arweinydd, Alun Guy, Cymdeithas Gorawl Pontypridd, Côr Meibion Pontypridd.
Sul Mehefin 11eg Telynau Morgannwg - Y Babell Fawr, Parc Ynysangharad, 3.30pm
Mae Telynau Morgannwg yn dathlu gyda Catrin Finch, Katherine Thomas a Gwenan Gibbard a chôr o delynau. Tocynnau £5.00 / consesiynau £3.00.
Llun, Mehefin 12fed G?yl Anthem - Y Babell Fawr , Parc Ynysangharad am 10.00am
Dathliad cerddorol gan ysgolion cynradd Pontypridd, i’w agor gan yr Archdderwydd, Mr Selwyn Griffith, Cludwr y Cleddyf, Mr Ray Gravell; gyda gwesteion o Gernyw a Llydaw.
Llun, Mehefin 12fed Lansiad llyfr ac agor arddangosfa - Amgueddfa Pontypridd, 7.30pm
Agor arddangosfa a lawnsio llyfr newydd gan Gwyn Griffiths, Gwlad fy Nhadau. Noddir y noson gan yr Academi Gymreig. Mynediad am ddim. Bydd yr arddangosfa yn aros hyd ddiwedd Gorffennaf.
Mawrth, Mehefin 13eg Wonderbrass - Clwb y Bont am 7.30 pm
Noson o jazz gyda Wonderbrass a Dom Duff (canwr gwerin o Lydaw). Tocynnau £3.00

Llawysgrif gwreiddiol Hen Wlad Fy Nhadau a gedwid yn y Llyfrgell Genedlaethol




O dan y Lloer - cerdd newydd y Nadolig gan Gillian Clarke, Bardd Cenedlaethol Cymru