Archif Newyddion
Bwrlwm Eryri

Cynllun cyntaf y fenter Bwrlwm Eryri
Prosiect cyntaf Bwrlwm Eryri – menter a lansiwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri a’r Cyffiniau eleni - fydd creu cyfeiriadur o lenyddiaeth leol.
Adnodd ar y We fydd hwn, fydd yn galluogi unrhyw un i chwilio yn gyflym am gerdd neu rigwm neu ysgrif sydd un ai yn waith llenor arbennig, neu sy’n sôn am destun sy’n cyfrannu at ymdeimlad pobl o berthyn i ardal ac amgylchfyd.
Er enghraifft, gallasai naturiaethwr sy’n ysgrifennu erthygl am flodyn arbennig chwilio am gerdd ar y testun hwnnw a’i dyfynnu, gallasai awdurdodau cyhoeddus gyfeirio at yr adnodd er mwyn dewis cerdd ar gyfer pamffled neu fwrdd dehongli, gallasai disgybl sy’n astudio gwaith llenor ddefnyddio’r cyfrifiadur i chwilio am ddyfyniadau perthnasol i’w cynnwys mewn traethawd, neu gallesid ei ddefnyddio i ganfod rhan o bennill a aeth yn angof.
Er mwyn creu casglaid o’r fath mae gan Bwrlwm Eryri dîm o gydlynwyr mewn dwsin o ardaloedd yng nghyffiniau’r Parc Cenedlaethol, ac os ydych yn byw yn yr ardal, bydd mwy o fanylion ynglŷn â sut i gyfrannu i’r prosiect yn ymddangos yn eich papur bro yn fuan.
Am ragor o fanylion yn y cyfamser cysylltwch ag Elin Alaw, Swyddog Prosiect Bwrlwm Eryri ar 01766 772 532. Cynhelir Cynhadledd Wanwyn Bwrlwm Eryri ym Mhlas Tan y Bwlch ar 25 Mawrth 2006.



