Archif Newyddion
Gwobr y Gwrandawyr – cyfle i ddarllenwyr fwrw’u pleidlais yng ngwobr Llyfr y Flwyddyn

Ar Orffennaf 11, bydd seremoni gwobrwyo Llyfr y Flwyddyn 2006 yn cynnwys gwobr arbennig lle bydd yr enillydd wedi ei ddewis gan wrandawyr BBC Radio Cymru. Felly yn ogystal a’r wobr fawr, bydd gan y tri ar y rhestr fer y cyfle i ennill Gwobr Gwrandawyr Radio Cymru hefyd.
Yng Nguyl y Gelli eleni, galwodd Catrin Beard am fwy o wobrau llenyddol i’n hawduron ni, ac mewn cydweithrediad a’r Academi mae Radio Cymru yn awyddus i wrandawyr yr orsaf ddod yn feirniaid ar gyfer dewis enillydd i’r wobr newydd ac arbennig hon.
Mae Radio Cymru am i bobol ddewis un o blith y tri ar y rhestr fer, nofel gan Manon Rhys, cyfrol feirniadaeth lenyddol gan Dafydd Johnston a chofiant Rhys Evans i Gwynfor Evans. Felly er mwyn cael penderfynu pa un o’r tri sy’n haeddu’r clod fel awdur Gwobr Gwrandawyr Radio Cymru yn seremoni Llyfr y Flwyddyn, gall pobol bleidleisio mewn un o ddau fodd.
Mae modd ffonio 08703 500 600 gan roi enw, rhif ffon a’r dewis o lyfr; neu e-bostio yr un wybodaeth at ycelfyddydau@bbc.co.uk. Os hoffai pobol roi eu rheswm dros bleidleisio, mae croeso iddyn nhw wneud hynny. Felly, digon o amser i fynd ati i ddarllen a dod i benderfyniad… Ewch ati i ddarllen a phleidleisio felly!
Bydd y seremoni i gyhoeddi Enillydd Llyfr y Flwyddyn ac enillydd gwobr arbennig gwrandawyr Radio Cymru yn digwydd ar Orffennaf 11, yng Ngwesty’r Hilton, Caerdydd.
Tri llyfr y rhestr fer…
Gwynfor gan Rhys Evans
rara avis gan Manon Rhys
Llen yr Uchelwyr - Hanes Beirniadol Llenyddiaeth Gymraeg 1300-1525 gan Dafydd Johnston
Cyfle unigryw felly i wrandawyr ddod yn feirniaid lenyddol a chael dweud eu dweud!




O dan y Lloer - cerdd newydd y Nadolig gan Gillian Clarke, Bardd Cenedlaethol Cymru