Archif Newyddion
Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn 2006

Merch fach mewn mynwent, cofiant cenedlaetholwr a dychan deifiol canoloesol
Mewn digwyddiad arbennig yng Ng?yl y Gelli ddydd Llun 29 Mai 2006, cyhoeddodd yr Academi deitlau’r dair cyfrol ar Restr Fer Llyfr y Flwyddyn 2006.
Wedi i wobr Llyfr y Flwyddyn y llynedd weld tair nofel ar y Rhestr Fer, mae beirniaid y wobr eleni – Catrin Beard, Elan Closs Stephens a’r Prifardd Ieuan Wyn – wedi dewis tair cyfrol tra gwahanol i’w gilydd gyda chofiant, nofel ac astudiaeth feirniadol yn llunio Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn 2006.
Y cyfrolau yw: Gwynfor: Rhag Pob Brad gan Rhys Evans (Y Lolfa); Llên yr Uchelwyr: Hanes Beirniadol Llenyddiaeth Gymraeg 1300–1525 gan Dafydd Johnston (Gwasg Prifysgol Cymru) a Rara Avis gan Manon Rhys (Gwasg Gomer).

Yr awduron ar y Rhestr Fer Saesneg yw Robert Minhinnick am To Babel and Back (Seren), Kitty Sewell am Ice Trap (Honno) ac Ifor Thomas am Body Beautiful (Parthian)
Ganed Rhys Evans yng Nghaerfyrddin, fe’i magwyd yn Aberystwyth ac fe’i haddysgwyd Ysgol Gyfun Penweddig, Aberystwyth a Choleg Hertford, Rhydychen. Ers dros ddegawd, mae’n gweithio fel newyddiadurwr i BBC Cymru. Ei gofiant ar fywyd y gwleidydd Gwynfor Evans, Gwynfor: Rhag Pob Brad, yw ei gyfrol gyntaf.
Brodor o Swydd Efrog yw Dafydd Johnston ac ef yw Athro’r Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru, Abertawe. Mae wedi cyhoeddi’n helaeth ar lenyddiaeth Cymru o bob cyfnod. Llên yr Uchelwyr: Hanes Beirniadol Llenyddiaeth Gymraeg 1300-1525, yw’r gyfrol gyntaf i gynnig darlun cynhwysfawr ac awdurdodol o lenyddiaeth y bedwaredd ganrif ar ddeg a’r bymthegfed ganrif.
Mae Manon Rhys yn enedigol o Gwm Rhondda, sef lleoliad ei nofel Rara Avis. Mae’n awdur sawl nofel a chyfrol o straeon byrion, yn sgriptwraig cyfresi teledu ac yn diwtor sgriptio ac ysgrifennu creadigol. Hi hefyd yw cydolygydd Taliesin, cylchgrawn llenyddol yr Academi.
Gwobrwyir £10,000 yr un i’r ddau enillydd – un Cymraeg ac un Saesneg – mewn seremoni wobrwyo yng Ngwesty’r Hilton, Caerdydd nos Fawrth 11 Gorffennaf 2006.
• Gweinyddir gwobrau Llyfr y Flwyddyn, a ddyfernir yn flynyddol i’r gweithiau gorau yn yr iaith Gymraeg a’r Saesneg ym meysydd ysgrifennu creadigol a beirniadaeth lenyddol, gan yr Academi yn dilyn trosglwyddo cyfrifoldebau o Gyngor Celfyddydau Cymru yn 2003.
• Dyfernir y gwobrwyon i’r llyfrau gorau a gyhoeddwyd yn y flwyddyn galendr flaenorol, gyda gwobr o £10,000 i’r cyfrolau buddugol
• Sefydlwyd y wobr ym 1992, ac ymhlith rhai o’r cyn-enillwyr mae Gerallt Lloyd Owen, Sonia Edwards, Aled Islwyn, Iwan Llwyd a Gwyneth Lewis. Enillwyr y wobr yn 2005 oedd Caryl Lewis am ei nofel Martha Jac a Sianco ac Owen Sheers am am ei gyfrol The Dust Diaries.



