Archif Newyddion


Cerddi’r Oesoedd Canol – Rhestr 10 Uchaf

gan Dafydd Johnston

Llyfr y Flwyddyn 2006

Yr Athro Dafydd JohnstonBrodor o Swydd Efrog yw Dafydd Johnston ac ef yw Athro’r Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru, Abertawe. Mae wedi cyhoeddi’n helaeth ar lenyddiaeth Cymru o bob cyfnod gan gynnwys tri golygiad pwysig, Gwaith Iolo Goch (1988), Gwaith Lewys Glyn Cothi (1995) a Gwaith Llywelyn Goch ap Meurig Hen (1998), yn ogystal â dau gasgliad thematig sydd wedi torri tir newydd, Canu Maswedd yr Oesoedd Canol (1991) a Galar y Beirdd (1993). Ef yw awdur y gyfrol ar lenyddiaeth Cymru yng nghyfres Llyfrau Poced Gwasg Prifysgol Cymru.
Mae ei gyfrol ddiweddaraf, Llên yr Uchelwyr – Hanes Beirniadol Llenyddiaeth Gymraeg 1300 -1525 ar Restr Hir Llyfr y Flwyddyn 2006.

Mewn trefn gronolegol, dyma ei restr ef o gerddi gorau’r Oesoedd Canol.

Marwnad Gwenhwyfar, Gruffudd ap Maredudd
Cyngor y Biogen, Dafydd ap Gwilym
Marwnad Lleucu Llwyd, Llywelyn Goch ap Meurig Hen
Llys Owain Glynd?r yn Sycharth, Iolo Goch
I Wagedd ac Oferedd y Byd, Siôn Cent
I Wiliam Herbart, Guto’r Glyn
Marwnad Siôn Eos, Dafydd ab Edmwnd
Marwnad Siôn y Glyn, Lewys Glyn Cothi
Bonedd Rhys ap Rhydderch ap Rhys, Dafydd Nanmor
Cywydd Cymod Hwmffre ap Hywel ap Siencyn a’i Geraint, Tudur Aled

Llên yr Uchelwyr gan Dafydd Johnston PRYNWCH GOPI o Llên yr Uchelwyr (£45.00, Gwasg Prifysgol Cymru) gan Dafydd Johnston ar gwales.com