Archif Newyddion
Cystadleuaeth Farddoniaeth Ryngwladol Féile Filíochta

Bu llond ceir o Gymry’n heidio dros y môr i Iwerddon y penwythnos diwethaf – na, nid ar gyfer rygbi – ond i dderbyn gwobrau yng Nghystadleuaeth Farddoniaeth Ryngwladol Féile Fíliochta yn Dún Laoghaire.
Y Prifardd T James Jones o Gaerdydd enillodd y wobr gyntaf yng nghategori Cymraeg y gystadleuaeth eleni, gyda’i gerdd Y Cwymp yng Nghenarth. Daeth Gwen Lasarus – sy’n gweithio i’r Academi a Chyngor Gwynedd fel Hyrwyddwraig Llenyddiaeth Gwynedd – yn ail gyda’i cherdd Tusw Tusw a daeth Rhys Dafis, hefyd o Gaerdydd, yn drydydd am ei gerdd Gwledd Nadolig 1969. Yn fuddugol yn y categori i rai dan 17 oed gyda’i gerdd Broc Môr Porth Neigwl oedd Llyr Titus Hughes o Edern. Mae Llyr yn aelod brwd o Sgwad Sgwennu Gwynedd.
Darllenwch y cerddi buddugol Cymraeg yma
Cafwyd noson hwyliog yn Neuadd y Sir, Dún Laoghaire nos Wener 24 Mawrth 2006 i ddathlu llwyddiannau beirdd o bob cwr o’r byd. Daethant i’r dathliadiadau o’r Unol Daleithiau, yr Almaen, Awstria, Gwlad Belg, Ffrainc, yr Eidal, Sbaen, Cymru, Lloegr, Sweden, yr Alban ac Iwerddon. Yn eu tro, darllenodd y beirdd - yn blant ac yn oedolion - eu cerddi buddugol i’r gynulleidfa yn eu ieithoedd eu hunain.
Christl Greller o Vienna oedd y bardd a gipiodd y Brif Wobr am Gerdd Ewrop Féile Fíliochta 2006, yn dwyn y teitlim schneesturm (mewn storm eira). Tony Bianchi o Gaerdydd enillodd y wobr hon yn 2005. Beirniaid y gystadelueaeth eleni oedd Criostoir O Floinn, Rosi Beech, Mark Hutcheson, Tanja Dembski, Jean Philippe Imbert, Silvia Bertoni, Myrddin ap Dafydd, Antonia Flores, Rody Gorman ac Annika Burholm.
Am ragor fanylion am gystadleuaeth Féile Fíliochta cysylltwch â Marian Keyes: mkeyes@dlrcoco.ie



