Archif Newyddion
Pwy fydd pencampwr Scrabble?

Mae cystadleuaeth Scrabble Cymraeg gyntaf Cymru ar fin dechrau.
Mae’r gystadleuaeth yn agored i siaradwyr rhugl eu Cymraeg a dysgwyr a bydd yna wobrau o £200 ar gael.
Mae’r rowndiau lleol newydd gychwyn, ond dydy hi ddim yn rhy hwyr i gystadlu.
Fe fydd y rowndiau yn para yn ystod misoedd Mai a Mehefin gyda’r rowndiau cynderfynol ym mis Gorffennaf a’r rownd derfynol yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Abertawe a’r cylch.
Mae’r gystadleuaeth yn cael ei chefnogi gan rai o sêr S4C, Nia Parry, y gyflwynwraig, Dilwyn Pierce, y digrifwr ac Iwan Charles, yr actor.
“Dwi’n meddwl ei fod o’n syniad gwych,” meddai Nia Parry, tiwtor Cymraeg sydd bellach yn cyflwyno Cwpwrdd Dillad ar S4C. “Dwi am weld y gystadleuaeth yn llwyddo a dwi’n annog pobl i gystadlu. Dewch yn llu Gymry Cymraeg a dysgwyr!”
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cystadlu bydd angen i chi gysylltu â CYD sy’n trefnu’r gystadleuaeth mewn cydweithrediad â grwpiau lleol a’r Mentrau Iaith.
“Mae’r rowndiau yn gallu bod yn ystod y dydd a’r nos ac mae cyfle i rywun, rhywle i gystadlu,” meddai Jaci Taylor, Rheolwr Canolog CYD. “Mae croeso i bobl gystadlu mewn cartrefi henoed ac ysbytai ac mae rowndiau eisoes wedi cael eu trefnu mewn caffis, canolfanau cymunedol a thafarndai.
“Sut bynnag rydych chi eisiau cystadlu mae angen i chi gysylltu â CYD yn gyntaf. Mae ond yn costio £1 i gystadlu a bydd gofyn i bobl gael eu gêmau eu hunain.”
Mae’r gêm Scrabble Cymraeg eisoes wedi profi’n boblogaidd gyda phobl Cymru ers iddi gael ei lansio gyda gêmau’n gwerthu allan mewn rhai siopau cyn y Nadolig, ond mae mwy ar gael erbyn hyn.
“Mae’n gyfle gwych i bobl gynyddu eu geirfa Cymraeg,” meddai Jaci Taylor. “Mae’r pwyslais mwya’ ar gael hwyl a gobeithio y bydd pobl yn mwynhau wrth chwarae!”
Mae’r gystadleuaeth yn cael ei noddi gan ACEN, S4C, Cyngor Llyfrau Cymru, Argraffwyr Cambrian ac eraill.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Jaci Taylor, 01970 622 143 swyddfa@cyd.org.uk



