Archif Newyddion

Bardd Plant Cymru’n cyfarch y Pencampwr David Davies

David Davies

Mae Bardd Plant Cymru, Mererid Hopwood, wedi ymuno â’r lluoedd sy’n llongyfarch y nofiwr David Davies am ei lwyddiant yng Ngemau’r Gymanwlad yn Awstralia yn ddiweddar. Cipiodd David Davies y fedal aur yn y 1500m dull rhydd yn y pwll nofio a  chwalodd y Cymro record wych Awstralia o ennill pob medal aur ers 1958, a hynny mewn amser o 14 munud 57.63 eiliad.

I Gyfarch y Pencampwr David Davies

G?yr pawb o Fynwy i Sir Fôn,
a phawb drwy’r ddaear gyfan,
fod dreigiau’n chwythu mwg a thân
a’u bod yn medru hedfan.

Ond yn nhre’r Barri, mae ’na un
sy’n llawer mwy peryglus
na dreigiau’r byd i gyd yn grwn –
a’i enw? David Davies!

Hwn yw’r ddraig a ddysgodd grefft
holl bysgod chwim yr afon,
er na all tonnau dyfna’r môr
fyth ddiffodd tân ei galon.

Mae’n rasio ar adenydd coch,
yn rhwydd, yn rhydd mae’n nofio
nes llosgi llwybr aur drwy’r pwll,
mae’n arwr – mae e’n Gymro!

Mererid Hopwood, Bardd Plant Cymru 2005–2006

Menter ar y cyd rhwng S4C, yr Urdd, Cyngor Llyfrau Cymru a’r Academi yw Bardd Plant Cymru. Bwriad y cynllun yw codi ymwybyddiaeth am farddoniaeth mewn ysgolion ar hyd a lled y wlad. Ymhlith y beirdd a dderbyniodd yr anrhydedd yn y gorffennol mae Tudur Dylan Jones, Ceri Wyn Jones, Myrddin ap Dafydd, Mei Mac a Menna Elfyn.

Bardd Plant Cymru

Am ragor o wybodaeth am y cynllun hwn, ymwelwch â’r wefan www.s4c.co.uk/barddplant