Archif Newyddion


Enillydd Cystadleuaeth Academi/Lingo Newydd i Ddysgwyr
Ysgrifennu stori fer yn Gymraeg

Fiona Collins
Fiona Collins

Yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri a’r Cyffiniau 2005 lansiodd yr Academi, ar y cyd â’r cylchgrawn i ddysgwyr Lingo Newydd, gystadleuaeth i ddysgwyr ysgrifennu stori fer yn Gymraeg. Mae’r Academi a Lingo Newydd yn falch o gael cyflwyno mai Fiona Collins o Ddyffryn Dyfrdwy yw awdur y stori fer fuddugol, Y Fantell Aur.

Darllenwch Y Fantell Aur

Mae Fiona Collins yn byw yng Ngharrog, pentre bach ger Corwen yn Nyffryn Dyfrdwy. Mae hi wedi bod yn dysgu Cymraeg ers 1999. Dechreuodd ddysgu Cymraeg yn Llundain, achos roedd ganddi hi freuddwyd y byddai’n dod yn ôl i Gymru lle cafodd ei magu pan oedd hi’n ferch ifanc. Roedd ei mam yn dod o Lansawel, De Cymru yn wreiddiol ond nid oedd hi’n siarad Cymraeg. Yn ôl Fiona, buasai ei mam wedi bod yn falch iawn o wybod bod ei merch yn dysgu iaith y nef.
Storïwraig ydy Fiona sy’n adrodd straeon traddodiadol – mae’n ymweld ag ysgolion, amgueddfeydd ac yn adrodd mewn parciau ac ati. Ei huchelgais yw adrodd straeon Y Mabinogi drwy gyfrwng y Gymraeg.

Beirniad y gystadleuaeth eleni oedd Alison Layland, Dysgwr y Flwyddyn 1999, hithau wedi profi cryn lwyddiant fel awdur Cymraeg. Dyfarnodd Alison mai Y Fantell Aur gan Fiona Collins oedd y stori fer a oedd yn haeddu ennill. Darllenwch y feirniadaeth yma.

Academi    Lingo Newydd