Archif Newyddion
Cyhoeddwyd Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn 2006 nos Iau 2 Mawrth 2006 fel rhan o ddathliadau Diwrnod y Llyfr. Roedd y gynulleidfa yn nigwyddiadau’r cyhoeddi yn y Senedd ym Mae Caerdydd ac yng Ng?yl Cymru Efrog Newydd, ymhlith y cyntaf i glywed pa 10 llyfr yw’r goreuon ymhlith yr holl rai a gyhoeddwyd yn 2005 yn nhyb y beirniaid Catrin Beard, Elan Closs Stephens a’r Prifardd Ieuan Wyn.
O Fethesda i Batagonia, o Bontydd Königsberg i gymoedd glofaol y De dyma gasgliad eclegtig o gyfrolau barddoniaeth, straeon byrion, astudiaethau, nofelau a chofiant, sydd yn gwneud y Rhestr Hir eleni yn un o’r rhai mwyaf amrywiol erioed.
Ceir enwau cyfarwydd iawn ar y Rhestr Hir eleni: gydag Eigra Lewis Roberts a Manon Rhys ymhlith yr awduron mwyaf blaengar yn y Gymraeg, ac Alan Llwyd a Mihangel Morgan yn feistri mewn meysydd barddoniaeth tra wahanol i’w gilydd. Ond bydd yr awduron newydd, Sian Eirian Rees Davies a Nia Medi, yn gobeithio y gall eu nofelau cyntaf hwy ddal eu tir yn erbyn yr awduron mwy profiadol. Ac er bod Meinir Pierce Jones wedi cyhoeddi sawl cyfrol i bobl ifanc, mae’r beirniaid wedi dewis ei chyfrol gyntaf i oedolion ymhlith y deg gyfrol orau.
Gyda chyfrol gyntaf Rhys Evans, ei gofiant amserol am Gwynfor Evans, ac astudiaeth Menna Baines o fywyd a gwaith Caradog Prichard, dyma roi sylw i ddau gymeriad blaenllaw yng Nghymru – ac efallai chwalu rhai o’r mythau amdanynt. Ond er bod Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn 2006 yn arddangos cyfoeth llenyddol ein hawduron cyfoes, mae Dafydd Johnston yn ein hatgoffa o gewri ein llenyddiaeth yn ystod yr Oesoedd Canol yn ei astudaeith feirniadol ef ar lenyddiaeth yr Uchelwyr.
Dywed Catrin Beard, Cadeirydd panel y beirniaid Cymraeg: ”Mae’r amrywiaeth sydd wedi dod o’r gweisg eleni yn rhyfeddol ac mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn y Rhestr Hir. Efallai na fydd pob cyfrol at ddant pob darllenydd, ond rydw i’n ffyddiog bod y rhestr hon yn cynnwys rhywbeth fydd yn plesio pawb”
Cliciwch <a class="" href="http://www.academi.org/main.cfm?goto=bookoftheyear&>yma i ddarllen mwy am y cyfrolau a’r awduron ar y Rhestr Hir.




