Archif Newyddion
Bardd Plant Cymru Ar–Lein

Yn ystod gwanwyn 2006 cynhelir cyfres o weithdai ysgrifennu creadigol go arbennig fel rhan o gynllun Bardd Plant Cymru. Yn ogystal ag ymweld â nifer o ysgolion led-led y wlad yn rhinwedd ei swydd, bydd y Prifardd Mererid Hopwood yn arwain beirdd y dyfodol mewn gweithdai electronig unigryw. Bydd y gweithdy cyntaf yn dechrau ar 12 Mawrth, ac erbyn 12 Ebrill byd 12 ysgol ar draws Cymru wedi ymuno â’r her o ddilyn gweithdai Bardd Plant Cymru - heb bresenoldeb Mererid yn y dosbarth!
Menter ar y cyd rhwng S4C, yr Urdd, Cyngor Llyfrau Cymru a’r Academi yw Bardd Plant Cymru, a’r gobaith yw codi ymwybyddiaeth o waith beirdd mewn ysgolion ar hyd a lled y wlad. Mae’r cynllun bellach yn chwe mlwydd oed, ac yn mynd o nerth i nerth.
Yn ogystal â Mererid, y beirdd sydd wedi derbyn yr anrhydedd o fod yn Fardd Plant Cymru yn y gorffennol yw Myrddin ap Dafydd, Mei Mac, Menna Elfyn, Ceri Wyn Jones a Tudur Dylan Jones.
Am ragor o wybodaeth am y cynllun hwn, ymwelwch â gwefan Bardd Plant Cymru
Dyma gerdd a luniodd Mererid ar gyfer T Llew Jones, Brenin Llenyddiaeth Plant Cymru, ar achlysur ei benblwydd yn 90 oed:
I Gyfarch T Llew Jones ar ei Benblwydd yn 90
Ga’ i lais y llygaid gleision?
Ga’ i iaith y stori i gyd?
Ga’ i wres yr hen hanesion?
Ga’ i’r hwyl, ga’i’r geiriau hud?
Ga’ i hedfan ’da’r gwylanod?
Ga’ i weld y traethau gwell?
Ga’ i alw ’Nghantre’r Gwaelod
a bae yr ynys bell?
Ga’ i aros iddi nosi?
Ga’ i sgwrs? – (Pwy gysgu wir …
mae seiat Twm Siôn Cati
yn well o bara’n hir!)
Ga’ i’r haf yng Nghwm Alltcafan?
Ga’i’r wig a’r awyr iach,
y nef ar lan yr afon,
a’r byd ym Mhont-dur-bach?
A chaf, fe’i caf, y cyfan,
o gael iaith f’arwr glew,
yr hwn sy’n stori ’i hunan,
y llais sydd yn T Llew.
h. Mererid Hopwood, Medi 2005



