Archif Newyddion

Ysgoloriaethau i Awduron Caerdydd

Angharad Elen  Clare Potter

Dyfarnwyd dwy ysgoloriaeth o £500 i’r awduron Clare Potter ac Angharad Elen er mwyn eu galluogi i ddatblygu ac ymchwilio i waith newydd yn rhan o raglen hyrwyddo’r celfyddydau ‘Future Focus’.

Crëwyd y Ysgoloriaethau Future Focus yn rhan o Raglen Ddiwylliannol Caerdydd 2005 gyda chefnogaeth Cyngor Caerdydd a Rhaglen Ddiwylliant Trefol Comisiwn y Mileniwm.

Enwebwyd yr enillwyr gan sefydliadau a chyrff celfyddydol fel artistiaid, awduron, cerddorion a dylunwyr cydnabyddedig sy’n dod yn amlwg trwy’r wlad fel talentau creadigol ac sydd â chysylltiad â dinas Caerdydd.

Mae’r Ysgoloriaethau Awduron yn ganlyniad enwebiadau a wnaed gan Academi.  Mae’r asiantaeth er hyrwyddo llenyddiaeth Cymru yn un o bartneriaid diwylliannol y cynllun.

Dywedodd Peter Finch, prif weithredwr Academi, “Mae canfod awduron newydd â thalent a rhoi hwb iddynt ar adeg amserol yn sicrhau dyfodol llenyddol cadarn i Gaerdydd a Chymru. Mae Clare Potter ac Angharad Elen yn awduron talentog a galluog, sydd ar drothwy eu gyrfa. Bydd y dyfarniad hwn yn eu helpu ar eu ffordd”

Bwriad y naill awdur a’r llall yw defnyddio’u ysgoloriaeth ar gyfer cyfnod o ymchwil. Mae Clare Potter yn ysgrifennu nofel ar hyn o bryd am ôl–effeithiau’r corwynt Katrina a bydd yr ysgoloriaeth o gymorth ar gyfer taith astudio estynedig i New Orleans ym mis Ebrill.

Dywedodd Richard Higlett o Raglen Ddiwylliannol Caerdydd 2005,  “Crëwyd y cynllun yn rhan o ddathliadau 2005 i gydnabod a chefnogi cenhedlaeth newydd o ymarferwyr creadigol sydd â chysylltiadau cryf â’r ddinas. Nid yw awduron, artistiaid na cherddorion yn ennill arian mawr, hyd yn oed os ydynt yn gymharol lwyddiannus, ond gall eu gwaith hwy fod o fudd i’r ddinas mewn llawer o ffyrdd, gan ddod â mwy na gwerth diwylliannol yn unig.”

Enillwyr eraill yr Ysgoloriaethau Future Focus

• Ed Adam a Sarah Fletcher ar gyfer Cyfryngau Seiliedig ar y Lens.  Enwebwyd gan Ffotogaleri

• Katie Borde ar gyfer Dylunio Set a Llwyfan. Enwebwyd gan Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

• Suzanne Parry ar gyfer Cerddoriaeth. Enwebwyd gan Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

• Ed Tandy ar gyfer Celf Weledol. Enwebwyd gan Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd.

• Anne Reynolds ar gyfer Dylunio. Enwebwyd gan Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd.

NODIADAU I OLYGYDDION

BYWGRAFFIAD CLARE POTTER
Magwyd Clare Potter yn Y Coed Duon, a dychwelodd i Gymru o New Orleans yn ddiweddar er mwyn canolbwyntio ar ei gwaith ysgrifennu. Ers iddi wneud y penderfyniad hwnnw, mae wedi dod i’r amlwg fel un o awduron ifainc mwyaf talentog Cymru yn y Saesneg, o ran rhyddiaith a barddoniaeth. Enillodd Wobr John Tripp ar gyfer Barddoniaeth ar Lafar, a daeth yn ail yng Nghystadleuaeth Stori Fer Cambrensis. Ymddangosodd ei gwaith yn ddiweddar yn y cylchgronau Cymreig ‘Red Poets Quarterly’ ac ‘Outlaw’. Cyhoeddwyd ei gwaith yng nghylchgrawn Mslexia yn ogystal, a bydd gwaith  o’i heiddo yn cael eu cynnwys yn antholeg Parthian, ‘Next’. Cyhoeddir ei chasgliad barddoniaeth ‘Spilling Histories’ eleni, a bydd ganddi ddarlleniad yng Nguyl Lenyddiaeth y Gelli. Bydd Clare yn teithio yn ôl i New Orleans ym mis Ebrill i ysgrifennu llyfr ar effeithiau corwynt Katrina. Ar hyn o bryd, mae hi’n astudio ar gyfer PhD mewn ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Caerdydd.

BYWGRAFFIAD ANGHARAD ELEN

Ganwyd Angharad Elen yng Nghaerdydd ac fe’i magwyd yn Llandwrog, ger Caernarfon. Ar ôl cwblhau M.A. mewn Cymraeg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Caerdydd, treuliodd ddwy flynedd yn gweithio fel Rheolwr Llenyddol i Sgript Cymru. Erbyn hyn mae’n gweithio fel Cynhyrchydd Teledu o dan Hyfforddiant gyda Cwmni Da a Tonfedd Eryri.

Enillodd Angharad Goron Eisteddfod yr Urdd, Caerdydd yn 2002 a daeth yn fuddugol yng Nghystadleuaeth Llên Micro Taliesin yn 2001. Ymddangosodd nifer o’i straeon micro mewn antholeg a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Wasg Carreg Gwalch, Corachod Digartref. Hi hefyd oedd un o’r chwe awdur a gomisiynwyd i ysgrifennu drama fer ar gyfer cynhyrchiad Sgript Cymru, Diwrnod Dwynwen, a deithiodd ledled Cymru yn 2003. Ysgrifennodd ddrama fer Saesneg, Bubble, ar gyfer cynhyrchiad cyntaf y cwmni theatr newydd arbrofol, Ruth is Stranger than Richard yn 2004 ac ysgrifennodd ffilm fer o’r enw Sal ar gyfer Teledu Opus a ddarlledwyd ar S4C Digidol yn ddiweddar.

Mae hi’n gyfrannydd ysbeidiol i Taliesin a Tu Chwith a bu’n olygydd gwadd o rifyn ‘Rhyddid’ Tu Chwith yn 2005. Bu Angharad ar banel beirniadu The Meyer-Whitworth Award i Gyngor Celfyddydau Lloegr yn 2005 ac mae hi’n arholwr allanol ar gyfer Sgriptio Llwyfan a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth.


Sefydlwyd YSGOLORIAETHAU FUTURE FOCUS gyda chymorth Cyngor Caerdydd a Rhaglen Ddiwylliant Trefol Comisiwn y Mileniwm. Mae’r Ysgoloriaethau i Awduron yn ganlyniad partneriaeth gydag Academi, sef
Yr Asiantaeth Genedlaethol er Hyrwyddo Llenyddiaeth a Chymdeithas Llenorion Cymru

Am ragor o wybodaeth a manylion am y Ysgoloriaethau Future Focus, cysylltwch â:
Richard Higlett
Caerdydd 2005
029 20 788311
rhiglett@cardiff.gov.uk