Archif Newyddion

Bardd Cenedlaethol Cymru yn dathlu agoriad y Senedd

Gwyneth Lewis

Roedd Dydd Gwyl Dewi eleni yn ddiwrnod hanesyddol i Gymru, pan agorwyd adeilad newydd y  Cynulliad – y Senedd – yn swyddogol.  Wedi ei leoli ar lan Bae Caerdydd, mae adeilad newydd y Senedd, a gynlluniwyd gan yr Arglwydd Rogers, yn adlewyrchu ffurfiau organig byd natur.

Bu Gwyneth Lewis, Bardd Cenedlaethol Cymru, ymhlith y rhai a fu’n cymryd rhan yn y seremoni agoriadol swyddogol y bore hwnnw.  Ym mhresenoldeb y Frenhines ynghyd â dau gant o westeion arbennig, adroddodd Gwyneth Lewis gerdd ddwyieithog a gyfansoddwyd yn arbennig ganddi i’r achlysur. 

Penodwyd Gwyneth Lewis yn Fardd Cenedlaethol yn 2005, ac ers hynny, trwy gyfrwng ei barddoniaeth, mae hi wedi nodi achlysuron megis Camp Lawn Cymru ac wedi coffáu Gwynfor Evans yn ei marwnad ‘Maen Hir’.  Mae Gwyneth yn troi ei sylw nawr at fywyd gwleidyddol Cymru, i ddathlu Senedd newydd y Cynulliad Cenedlaethol gyda’r gerdd ‘Gorwel â Phobl’.

Fel Bardd Cenedlaethol mae Gwyneth Lewis yn gweithredu fel lladmerydd llenyddol i Gymru, gan nodi a dathlu ein bywydau trwy gyfrwng barddoniaeth.  Gweinyddir y cynllun gan yr Academi gyda nawdd Cyngor Celfyddydau Cymru.  Mae Gwyneth wrth ei bodd ei bod yn cyfrannu at seremoni agoriadol y Senedd.  Dywedodd:

Does dim amheuaeth taw ysgrifennu’r gerdd ar gyfer agoriad swyddogol adeilad newydd y Cynulliad Cenedlaethol yw’r sialens mwyaf i mi mor belled fel Bardd Cenedlaethol.  Wrth feddwl am brydferthwch ac ansawdd adeilad yr Arglwydd Rogers, fodd bynnag, meddyliais am yr egwyddorion moesol, gwleidyddol a chymdeithasol fydd yn cael eu deddfu a’u dadlau yma.  Dwi’n falch iawn i gymryd rhan mor bwysig yn y seremoni agoriadol, ac i gynrychioli traddodiad barddol Cymru mewn achlysyr mor hanesyddol.  Dylai bardd allu mynegi ein gobeithion ar gyfer y sefydliad ifanc hwn a’n hatgoffa am yr egwyddorion sylfaenol a ddylai drwytho’r ffordd y defnyddir iaith yn yr adeilad newydd syfrdanol hwn.”

Mae’r gerdd ‘Gorwel â Phobl’ yn mynegi rôl y Senedd newydd i Gymru ac yn myfyrio ar waith y gwleidyddion:

Gorwel â Phobl

This senedd was in us before it was built,
a floating island of the mind

in need of a home and a set of stairs
so we could re–marry clouds from elsewhere

and walk on slate pavements of sea
daily, defying gravity.

Speak softly here and the whole of Wales
can hear: what you say

now doubly matters. Let your words
be lighthouse, let them be the roots

of this, our democratic oak,
converting knottiness into shade.

Siaradwch o’ch gwreiddiau ac fe gwyd
deddfau fel mwg o’r aelwyd.

Codwch lusern siarad ar ein cyfer
a gall neidr tywyllwch gynnal y sêr.

Rain happens between us,
but now we have disciplines of glass.

If Penarth should dive like a whale
into the Severn, we’ll have human trees –

people rooted in what you say –
and a second horizon. So make it true,

hospitable but not afraid to say no,
not mealy-mouthed, nor full of ego,
 
that we may deserve our reflections in water,
be partners worthy of this sky, this air.

Gwyneth Lewis, Bardd Cenedlaethol Cymru