Archif Newyddion
TALIESIN CYFROL 128, HAF 2006 – LLEISIAU O’R GORFFENNOL

**Cynnig arbennig i danysgrifwyr cylchlythyr yr Academi**
Mae’r rhifyn nesaf o Taliesin ar fin ymddangos yn y siopau. Y pris arferol yw £4 y copi, gyda thanysgrifiadau am £11 y flwyddyn neu £19 am ddwy flynedd. Ond beth am fanteisio ar gynnig arbennig i danysgrifwyr cylchlythyr electronig yr Academi? Tanysfrifiwch am £11 y flwyddyn a derbyniwch gopi ychwanegol yn RHAD AC AM DDIM. Ie - dyna ni - 4 rhifyn o gylchgrawn llenyddol gorau Cymru am bris 3. Does dim angen dod o Sir Aberteifi i weld fod hwn yn gynnig da iawn…
Bydd Taliesin 128: Rhifyn yr Haf yn rhoi sylw i rai o leisiau o’r gorffennol. Bydd yna gyfweliad rhwng Jennie Eirian, Amy Parry-Williams, Cassie Davies â Saunders Lewis, a gohebiaeth rhwng Prosser Rhys a Myfanwy Davies gan Nan Griffiths, tra bydd Katie Gramich yn ystyrired llenyddiaeth merched y Diwygiad
Yn ogystal ceir llenyddiaeth greadigol newydd gyda straeon byrion gan Siân Owen ac eraill a cherddi gan Ann Dafis Keane, W. R. P. George, Robert Lacey, Derec Llwyd Morgan ac eraill. Hyn oll ynghyd â rhagor o erthyglau, ysgrifau, cerddi, straeon ac adolygiadau – a’r croesair poblogaidd
Am fanylion pellach - neu i fanteisio ar y cyfle arbennig o danysgrifwyr y cylchlythyr hwn - cysylltwch â’r Academi ar 029 2047 2266 neu post@academi.org
Cyhoeddir Taliesin gan yr Academi gyda chefnogaeth Cyngor Llyfrau Cymru.



