Archif Newyddion

Maes C – Cerddi, cerddoriaeth, comedi, craic…

Maes C

Eisteddfod Genedlaethol Abertawe a’r Cylch
5-12 Awst 2006

MaesC yw’r digwyddiadau gyda’r hwyr yn ystod wythnos yr Eisteddfod a drefnir ar y cyd rhwng yr Eisteddfod a’r Academi. Cynhelir MaesC ar faes carafanau’r Eisteddfod ar Fferm Bach y Gwreiddyn. Codir is-bafiliwn arbennig i’r pwrpas hwn, a bydd bar hwyr ar gael. Noddir MaesC gan Gyngor Celfyddydau Cymru
 
Gellir prynu tocynnau MaesC oddi ar y we - www.eisteddfod.org.uk neu o’r llinell docynnau 0845 122 1176

Nos Sadwrn 5 Awst, 8pm
Seiat Rygbi
Keith Davies fydd yn trio cadw trefn ar Clive Rowlands, Lyn Ebenezer a Ray Gravell, wrth iddynt drafod hynt a helynt rygbi, y 70au, yr 80au ac ambell i beth arall
Tocynnau £5 o’r llinell docynnau: 0845 122 1176

Nos Sul 6 Awst, 8pm
Lawr yn y Ddinas
Cerddi, stand yp a cherddoriaeth byw. Pair o dalent lleol gyda Meryl Mort, Huw Dylan, Neil Rosser ac eraill.
Tocynnau £5 o’r llinell docynnau: 0845 122 1176

Nos Lun 7 Awst, 8pm
Beirdd yn y Doc

Y Prifardd Emyr Lewis fydd yn dwyn Mererid Hopwood, Iwan Llwyd, Tudur Dylan Jones, Eurig Salisbury, Mei Mac, Catrin Dafydd, Hywel Griffiths ac eraill o flaen eu gwell. Trefnir y noson gan Barddas gyda chefnogaeth yr Academi.
Tocynnau gan Barddas (Elwyn Edwards) 01678 520378 / Stondin Barddas ar y Maes / llinell docynnau 0845 122 1176

Nos Fawrth 8 Awst, 8pm
Caryl a’r Band
Cyfle i ail-fyw’r clasuron gyda’r gantores o fri Caryl Parry-Jones. Wyt ti’n cofio chwarae’r peiriant fideo ar bynhawn dydd Sadwrn oer?
Tocynnau £7 o’r llinell docynnau: 0845 122 1176

Nos Fercher 9 Awst, 8pm
Noson Tŷ Newydd
Yn dilyn llwyddiant nosweithiau Ail Doi a Paentio’r Sgyrtins dyma noson arall wych o farddoniaeth a cherddoriaeth i gasglu arian i brynu sosbenni newydd i Dŷ Newydd! Gyda Myrddin ap Dafydd, Ifor ap Glyn, Mei Mac, Twm Morys ac eraill.
Tocynnau £5 o Dŷ Newydd 01766 522 811 / Stondin Tŷ Newydd ar y Maes / llinell docynnau 0845 122 1176

Nos Iau 10 Awst, 8pm
Y Dyn Dwad a’i Gyfeillion

Mae’r Dyn Dwad yn ôl! Detholiad o gampwaith Dafydd Huws - deifioldeb ar ei orau.
Tocynnau £5 o’r llinell docynnau: 0845 122 1176

Nos Wener 6 Awst, 8.30pm
Stomp y Steddfod

Noson fawreddog o farddoniaeth, chwerthin a chardiau lliw. Un bardd ar bymtheg yn cystadlu am y gorau i ennill y stôl, dan arweiniad y Stompfeistr Ifor ap Glyn.
Tocynnau yn £7 (£6 gost.) ac ar gael o swyddfa’r Academi: 029 2047 2266

Nos Sadwrn 7 Awst, 8.30pm
Nôl i’r Cwm

Set acwstig gan Huw Chiswell – dewch i gyd-ganu a chwifio’ch dwylo
Tocynnau £5 o’r llinell docynnau: 0845 122 1176