Archif Newyddion

Eistededfod Genedlaethol Abertawe a’r Cylch
5–12 Awst 2006

Pafiliwn y Brifwyl

Mae’r Academi wedi trefnu nifer o weithgareddau ar Faes y Brifwyl eleni, a gynhelir ar Barc Felindre, ar gyrion Abertawe ger Cyffordd 46 ar draffordd yr M4. Byddwn yn rhannu stondin gyda Chanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, felly galwch draw am baned a sgwrs, ac i ymuno yn hwyl yr ?yl.

Dydd Sadwrn 5 Awst
3.00pm, adeiladwaith Cywaith Cymru ("Y Gawell"): agoriad swyddogol cynllun celf awyr-agored Cywaith Cymru, gyda pherfformiad gan yr awdur Catrin Dafydd, a noddir gan yr Academi. Darperir gwin a phice bach.

Bydd perfformiadau Catrin Dafydd yn y Gawell yn parhau drwy’r wythnos. Manylion i ddilyn.

Dydd Llun 7 Awst
12.00 canol dydd, Y Lle Celf: Agoriad swyddogol cynllun Bardd Preswyl yr Arddangosfa, a gefnogir gan yr Academi. Y Prifardd Alan Llwyd sydd wedi bod yn myfyrio ar y gweithiau celf eleni.

Dydd Mercher 9 Awst
9.30am - 3.30pm, lleoliadau amrywiol: Diwrnod o weithgareddau ar gyfer aelodau Sgwadiau Sgwennu’r Ifainc dan arweiniad Caryl Lewis a Gwion Hallam.
11.00 am, stondin Academi a Thŷ Newydd: Cylch trafod Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn gyda Gwion Hallam, un o feirniaid y wobr yn 2007. Oeddech chi’n cytuno â beirniaid eleni?

Dydd Iau 10 Awst
1.00pm, y Babell Lên: Sesiwn Llyfr y Flwyddyn gyda’r enillydd Rhys Evans yn trafod ei gyfrol Gwynfor: Rhag Pob Brad gyda Catrin Beard, cadeirydd panel y beirniaid Cymraeg.
3.00pm, y babell fwyd: Gornest Guinness - talwrn anffurfiol dan arweiniad y Meuryn, Arwyn Groe Davies.

Dydd Gwener 11 Awst
12.00 canol dydd, Stondin Academi a Thŷ Newydd: Lansio’r rhifyn cyfredol o’r cylchgrawn Tu Chwith yng nhwmni nifer o’r cyfranwyr.
2.00 - 3.00pm, Y Lle Celf: Lansio Taliesin 128 - Rhifyn yr Haf gyda’r golygyddion Manon Rhys a Christine James a rhai o’r cyfranwyr.

Dydd Sadwrn 12 Awst
1.00pm, Stondin Academi a Thŷ Newydd: Cylch Trafod y Cyfansoddiadau dan arweiniad Rocet Arwel Jones. Byddwch y cyntaf i ddweud eich dweud am weithiau llenyddol buddugol Eisteddfod 2006. Pwy fydd y Prifeirdd Pinc tybed?

Am ragor o fanylion, cysylltwch â’r Academi ar 029 2047 2266 / post@academi.org