Archif Newyddion
Y Gawell

Eleni eto, mae’r Academi wedi bod yn cydweithio gyda’r asiantaeth gelf gyhoeddus, Cywaith Cymru, ar berfformiadau trawsgelfyddydol awyr-agored yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol.
Mae artist comisiwn Cywaith Cymru, Rawley Clay, o Coed Hills, wedi bod yn cydweithio gyda’r bardd a’r awdur Catrin Dafydd ar gynlluniau’r celfAdeilad eleni. Mae’n troi o amgylch y syniad o gawell aderyn, lle bydd yr artist yn clwydo yn ystod wythnos y Brifwyl, tra bwydir tameidiau o’r iaith Gymraeg iddo ar ffurf darnau o berfformiad.
Meddai Catrin Dafydd am y cydweithio hynod yma:
"Mae’r profiad o gyd-weithio gydag artist nad yw’n gallu siarad Cymraeg wedi cyfoethogi fy nealltwriaeth o gymhlethdod dwyieithrwydd a’r ymdeimlad o berthyn i genedl. Fel rhan o’r gwaith ’Y Gawell’ ryn ni’n ceisio cyfleu y cymhlethdodau a berthyn i’n cyfrifoldebau ni i’n cymunedau ni a’r blaned. Mae ein hymdriniaeth ni o’n hiaith a’n diwylliant ymhleth wrth ein hymwybyddiaeth o dir ac o amgylchedd. Mae’r holl agweddau hyn yn annatod.
"Pwrpas defnyddio’r gawell fel symbol yw codi cwestiynau ynghylch caethiwed yn y byd Gorllewinol. Byddai modd dadlau eich bod yn gaeth i unrhyw iaith rych chi’n ei siarad ac ar y llaw arall - drwy’r caethiwed hwnnw mae modd canfod rhyddid. Yn ein perfformiad, bydd Rawley Clay a minnau yn mynd ati i chwalu syniadau ynghylch rhyddid a chaethiwed ac yn ceisio dangos fod siarad dy famiaith yn fwy na dysgu sut i archebu coffi mewn caffi a’i fod i wneud a dealltwriaeth dyn o’i hanes, ei hunaniaeth, ei dir a’r ddaear."
Meddai Iwan Bala o Cywaith Cymru:
"Mae Rawley Clay yn artist sydd yn byw ar y cyrion, ac eto mae hefyd yn y canol. Mae’n rhedeg Celfan Wledig Coed Hills ger Sain Hilary, ac yno maent yn cynhyrchu gwaith celf amgylcheddol. Drwy ei wahodd i greu celfAdeilad yr Eisteddfod eleni, r’oeddwn yn teimlo y buasai yn gwneud ymgais ddiddorol i uniaethu ei hun gyda cyd-destun diwylliannol yr Eisteddfod. Fel aderyn mewn cawell, bydd Rawley yn cael ei fwydo gan y bardd Catrin Dafydd ac yn gobeithio pigo fynu tipyn o’r heniaith!"
Cynhelir digwyddiad i lansio’r cynllun ar y Maes ar ddydd Sadwrn 5 Awst am 3.00pm, gyda lluniaeth ysgafn. Bydd David Greenslade yn perfformio "Lladd Nadroedd" gyda Williams Brown am 1.30pm dydd Llun 7 Awst yn y Gawell, yna bydd Catrin Dafydd yn perfformio gyda Rawley Clay yn ystod yr wythnos ar yr amserau canlynol:
Dydd Llun 7 Awst, 2.30pm
Dydd Mawrth 8 Awst, 1.30pm
Dydd Mercher 9 Awst, 1.30pm



