Archif Newyddion
AWDURON CYMRU A’U PETHE

Yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol yn Abertawe ym mis Awst bwriedir cynnal arwerthiant o wrthrychau a roddwyd gan awduron Cymru i godi arian i helpu awdur ifanc o Zimbabwe i fynychu cwrs MA Ysgrifennu Creadigol Coleg y Drindod yn ystod 2006–2007. Mae’r awdur hwn yn dalentog dros ben ac eisoes wedi llwyddo i gyhoeddi llyfr o straeon byrion yn ogystal ag ennill gwobrau rhyddiaith Arvon a’r Cyngor Prydeinig. Heb nawdd digonol ni fyddai’n bosib iddo ddod draw i Gymru.
Er mwyn codi arian, mae Menna Elfyn wedi gofyn i wahanol awduron i roi rhywbeth nad ydynt hwy yn ei ystyried o werth materol ond y bydd rhywrai efallai yn ei ystyried yn drysor. Mae hi eisoes wedi derbyn rhoddion gan awduron amlwg fel Gillian Clarke a Stevie Davies. Ymhlith y ‘trysorau’, mae hen bib gan Dic Jones (ac englyn amdano yn y câs); het Nigel Jenkins a brynodd ar daith i Khasia; cudyn o wallt Paul Henry mewn blwch pert ; llyfrau wedi eu harwyddo gan Gwyneth Lewis a iâr go arbennig gan Peter Finch!
Gwerthir dros 25 eitem i gyd, a phob un i’r cynig mwyaf. Bydd Menna yn ddiolchgar iawn i unrhyw awdur sy’n danfon ‘trysor’ ati – y math o beth na fyddwch yn hiraethu ar ei ôl! Os na allwch feddwl am drugareddau o’r fath, fe fyddai darn (newydd efallai) o’ch gwaith, yn eich llawysgrifen, yn dderbyniol dros ben.
Cynhelir y digwyddiad hwn yn y Babell Lên am 3 o’r gloch ar brynhawn Sadwrn ola’r Eiteddfod, a’r arwerthwr tra effeithiol fydd Hywel Teifi. Yn sicr, bydd yna ddigon o chwerthin a gwerthu gyda Hywel wrth y llyw.
MENNA ELFYN
Cysgod y graig
Stryd y gwynt
Llandysul
SA 44 4BH




Mynd i’r fan a’r fan: Taith fws llenyddol gyda’r Prifardd Iwan Llwyd a Karen Owen
Meic Stephens yn 70 dathlu ei gyfraniad i lenyddiaeth yng Nghymru
Pam w tn nfon txt @a inau..? Gweithdy Tecstlynion Eurig Salisbury - rhan o Wyl Llên y Lli.
Deffro o drwmgwsg. Mae Gŵyl Llên y Lli 2008 yn addo deffro’r dychymyg. Cliciwch yma i ddarganfod mwy am ein rhaglen sy’n cynnwys rhai o awduron mwyaf cyffrous Cymru…
Medal hanesyddol: Mererid Hopwood yw’r ferch gyntaf i ennill y Gadair, y Goron a’r Fedal Ryddiaith.
Llanciau Llenyddol: Awduron ifanc yn dod i’r brig yn yr Eisteddfod
Yr Injan Odli - lansio gosodiad unigryw Cymdeithas y Rhyfeddod nos Wener 10 Hydref 2008
Wythnos rhoi llyfr yn anrheg - mae’r dathlu wedi dechrau.