Archif Newyddion

AWDURON CYMRU A’U PETHE

Het Nigel?    Pib Dic?

Yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol yn Abertawe ym mis Awst bwriedir cynnal arwerthiant  o wrthrychau a roddwyd gan awduron Cymru i godi arian  i helpu awdur ifanc o Zimbabwe i fynychu cwrs MA Ysgrifennu Creadigol Coleg y Drindod yn ystod 2006–2007. Mae’r awdur hwn yn dalentog dros ben ac eisoes wedi llwyddo i gyhoeddi llyfr o straeon byrion yn ogystal ag ennill gwobrau rhyddiaith Arvon a’r Cyngor Prydeinig. Heb nawdd digonol ni fyddai’n bosib iddo ddod draw i Gymru.

Er mwyn codi arian, mae Menna Elfyn wedi gofyn i wahanol awduron i roi rhywbeth nad ydynt hwy yn ei ystyried o werth materol ond y bydd rhywrai efallai yn ei ystyried yn drysor. Mae hi eisoes wedi derbyn rhoddion gan awduron amlwg fel Gillian Clarke a Stevie Davies. Ymhlith y ‘trysorau’, mae hen bib gan Dic Jones (ac englyn amdano yn y câs); het Nigel Jenkins a brynodd ar daith i Khasia; cudyn o wallt Paul Henry mewn blwch pert ; llyfrau wedi eu harwyddo gan Gwyneth Lewis a iâr go arbennig gan Peter Finch!

Gwerthir dros 25 eitem i gyd, a phob un i’r cynig mwyaf. Bydd Menna yn ddiolchgar iawn i unrhyw awdur sy’n danfon ‘trysor’ ati – y math o beth na fyddwch yn hiraethu ar ei ôl! Os na allwch feddwl am drugareddau o’r fath, fe fyddai darn (newydd efallai) o’ch gwaith, yn eich llawysgrifen, yn dderbyniol dros ben.

Cynhelir y digwyddiad hwn yn y Babell Lên am 3 o’r gloch ar brynhawn Sadwrn ola’r Eiteddfod, a’r arwerthwr tra effeithiol fydd Hywel Teifi. Yn sicr, bydd yna ddigon o chwerthin a gwerthu  gyda Hywel wrth y llyw.

MENNA ELFYN
Cysgod y graig
Stryd y gwynt
Llandysul
SA 44 4BH