Archif Newyddion
Stomp y Steddfod 2006

Y Stompfeistr

Rhai o’r Stompwyr
Stomp [bôn y f. stompiaf: ystompiaf: (y)stompio, stomp(i)an] eb.g. Stwmp, stwnsh, slwtsh; llanastr, anrhefn, hefyd yn ffig. am berson:. mash, mashed vegetable(s), soft pulpy mass; mess, disorder, also fig. of person.
Hefyd - un bardd ar bymtheg am eu gorau yn cystadlu am Stôl (sylwer: nid Cadair) fach bren. Y Stompfeistr yn cadw trefn, a’r gynulleidfa’n dewis y goreuon o bob rownd drwy arddangos cardiau lliw. Un o ddigwyddiadau mwyaf poblogaidd yr Eisteddfod ac mae’r tocynnau’n brin iawn.
Eleni, Y Prifardd Ifor ap Glyn fydd yn feistr ar y stompwyr: Huw Meirion Edwards, Gwyneth Glyn, Iwan Llwyd, Annes Glynn, Dylan Ebenezer, Gwenno Mair Davies, Hywel Griffiths, Geraint Løvgreen, T. James Jones, Bethan Gwanas, Arwel "Pod" Roberts, Cynan Jones, Guto Dafydd, Huw Erith, Mari Lisa ac Osian Rhys Jones.
Cynhelir y Stomp ar nos Wener 11 Awst, MaesC ar faes carafanau’r Eisteddfod. Tocynnau: £7 (£6 gost.) o’r Academi 029 2047 2266 neu llinell docynnau’r Eisteddfod 0845 122 1176.




Mynd i’r fan a’r fan: Taith fws llenyddol gyda’r Prifardd Iwan Llwyd a Karen Owen
Meic Stephens yn 70 dathlu ei gyfraniad i lenyddiaeth yng Nghymru
Pam w tn nfon txt @a inau..? Gweithdy Tecstlynion Eurig Salisbury - rhan o Wyl Llên y Lli.
Deffro o drwmgwsg. Mae Gŵyl Llên y Lli 2008 yn addo deffro’r dychymyg. Cliciwch yma i ddarganfod mwy am ein rhaglen sy’n cynnwys rhai o awduron mwyaf cyffrous Cymru…
Medal hanesyddol: Mererid Hopwood yw’r ferch gyntaf i ennill y Gadair, y Goron a’r Fedal Ryddiaith.
Llanciau Llenyddol: Awduron ifanc yn dod i’r brig yn yr Eisteddfod
Yr Injan Odli - lansio gosodiad unigryw Cymdeithas y Rhyfeddod nos Wener 10 Hydref 2008
Wythnos rhoi llyfr yn anrheg - mae’r dathlu wedi dechrau.