Archif Newyddion

Stomp y Steddfod 2006

Ifor ap Glyn
Y Stompfeistr

Y Prifardd Huw Meirion Edwards  Gwyneth Glyn  Iwan Llwyd  Annes Glynn  Dylan Ebenezer  Gwenno Mair Davies
Rhai o’r Stompwyr


Stomp [bôn y f. stompiaf: ystompiaf: (y)stompio, stomp(i)an] eb.g. Stwmp, stwnsh, slwtsh; llanastr, anrhefn, hefyd yn ffig. am berson:. mash, mashed vegetable(s), soft pulpy mass; mess, disorder, also fig. of person.

Pleidleisio mewn StompHefyd - un bardd ar bymtheg am eu gorau yn cystadlu am Stôl (sylwer: nid Cadair) fach bren. Y Stompfeistr yn cadw trefn, a’r gynulleidfa’n dewis y goreuon o bob rownd drwy arddangos cardiau lliw. Un o ddigwyddiadau mwyaf poblogaidd yr Eisteddfod ac mae’r tocynnau’n brin iawn.


Eleni, Y Prifardd Ifor ap Glyn fydd yn feistr ar y stompwyr: Huw Meirion Edwards, Gwyneth Glyn, Iwan Llwyd, Annes Glynn, Dylan Ebenezer, Gwenno Mair Davies, Hywel Griffiths, Geraint Løvgreen, T. James Jones, Bethan Gwanas, Arwel "Pod" Roberts, Cynan Jones, Guto Dafydd, Huw Erith, Mari Lisa ac Osian Rhys Jones.

Cynhelir y Stomp ar nos Wener 11 Awst, MaesC ar faes carafanau’r Eisteddfod. Tocynnau: £7 (£6 gost.) o’r Academi 029 2047 2266 neu llinell docynnau’r Eisteddfod 0845 122 1176.