Archif Newyddion
Adolygiad o’r Celfyddydau yng Nghymru yn Cyhoeddi Dyddiadau Cyfarfodydd Cyhoeddus

Bydd cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus i unrhyw rai sydd eisiau dweud eu dweud ar ddyfodol Cyngor Celfyddydau Cymru ac ariannu’r celfyddydau yn cael eu cynnal yr haf hwn.
Mae’r Adolygiad yn trefnu rhaglen o ymgynghori cyhoeddus ledled Cymru.
Meddai Elan Closs Stephens, Cadeirydd yr Adolygiad: “ Rydym yn benderfynol y bydd yr Adolygiad yn agored ac yn gynhwysol, gan ddilyn yn union y cylch gwaith clir a nodwyd yn y Cylch Gorchwyl gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Yn ogystal â’r cyfarfodydd cyhoeddus, bydd cyfarfodydd unigol gyda rhanddeiliaid allweddol, a galwad cyhoeddus am dystiolaeth ysgrifenedig.
“Rydym yn cydnabod bod y gwaith yn sylweddol ac rydym yn edrych ymlaen i glywed ystod eang o safbwyntiau. Byddwn yn cwblhau’r cyfarfodydd cyhoeddus erbyn mis Awst, ac rydym yn gofyn i dystiolaeth ysgrifenedig gael ei hanfon erbyn diwedd mis Gorffennaf. ”
Bydd y Panel yn cwrdd â’r Gweinidog dros Ddiwylliant ac yn clywed tystiolaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru ym mis Mehefin. Bydd cynllun gwaith yr Adolygiad, dyddiadau’r cyfarfodydd a gwybodaeth am sut i gyflwyno tystiolaeth ar gael ar wefan yr Adolygiad yn fuan.
Dyma ddyddiadau a lleoliadau’r cyfarfodydd:
Dyddiad Tref/Dinas Lleoliad Amser
19 Mehefin Y Coed-duon, Caerffili Neuadd y Glowyr 2pm - 5pm.
22 Mehefin Caernarfon, Gwynedd Galeri 2pm - 5pm.
29 Mehefin Caerdydd, Coryton Gwesty’r Village 2pm - 5pm.
7 Gorffennaf Wrecsam Theatr Nick Whitehead, NEWI 2pm - 5pm.
2 Awst Aberystwyth Canolfan Gelfyddydau Aberystwyth 1pm – 4pm
10 Awst Abertawe Canolfan Dylan Thomas 2pm - 5pm.
Am fwy o wybodaeth ynglyn â’r ymgynghoriad, cysylltwch â Peter Harding, 01443 336142.




Mynd i’r fan a’r fan: Taith fws llenyddol gyda’r Prifardd Iwan Llwyd a Karen Owen
Meic Stephens yn 70 dathlu ei gyfraniad i lenyddiaeth yng Nghymru
Pam w tn nfon txt @a inau..? Gweithdy Tecstlynion Eurig Salisbury - rhan o Wyl Llên y Lli.
Deffro o drwmgwsg. Mae Gŵyl Llên y Lli 2008 yn addo deffro’r dychymyg. Cliciwch yma i ddarganfod mwy am ein rhaglen sy’n cynnwys rhai o awduron mwyaf cyffrous Cymru…
Medal hanesyddol: Mererid Hopwood yw’r ferch gyntaf i ennill y Gadair, y Goron a’r Fedal Ryddiaith.
Llanciau Llenyddol: Awduron ifanc yn dod i’r brig yn yr Eisteddfod
Yr Injan Odli - lansio gosodiad unigryw Cymdeithas y Rhyfeddod nos Wener 10 Hydref 2008
Wythnos rhoi llyfr yn anrheg - mae’r dathlu wedi dechrau.