Archif Newyddion

Adolygiad o’r Celfyddydau yng Nghymru yn Cyhoeddi Dyddiadau Cyfarfodydd Cyhoeddus

Celfyddydau

Bydd cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus i unrhyw rai sydd eisiau dweud eu dweud ar ddyfodol Cyngor Celfyddydau Cymru ac ariannu’r celfyddydau yn cael eu cynnal yr haf hwn.

Mae’r Adolygiad yn trefnu rhaglen o ymgynghori cyhoeddus ledled Cymru.

Meddai Elan Closs Stephens, Cadeirydd yr Adolygiad: “ Rydym yn benderfynol y bydd yr Adolygiad yn agored ac yn gynhwysol, gan ddilyn yn union y cylch gwaith clir a nodwyd yn y Cylch Gorchwyl gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.  Yn ogystal â’r cyfarfodydd cyhoeddus, bydd cyfarfodydd unigol gyda rhanddeiliaid allweddol, a galwad cyhoeddus am dystiolaeth ysgrifenedig. 

“Rydym yn cydnabod bod y gwaith yn sylweddol ac rydym yn edrych ymlaen i glywed ystod eang o safbwyntiau. Byddwn yn cwblhau’r cyfarfodydd cyhoeddus erbyn mis Awst, ac rydym yn gofyn i dystiolaeth ysgrifenedig gael ei hanfon erbyn diwedd mis Gorffennaf. ”

Bydd y Panel yn cwrdd â’r Gweinidog dros Ddiwylliant ac yn clywed tystiolaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru ym mis Mehefin.  Bydd cynllun gwaith yr Adolygiad, dyddiadau’r cyfarfodydd a gwybodaeth am sut i gyflwyno tystiolaeth ar gael ar wefan yr Adolygiad yn fuan.

Dyma ddyddiadau a lleoliadau’r cyfarfodydd:

Dyddiad Tref/Dinas    Lleoliad Amser
19 Mehefin Y Coed-duon, Caerffili Neuadd y Glowyr 2pm - 5pm.
22 Mehefin  Caernarfon, Gwynedd  Galeri 2pm - 5pm.
29 Mehefin Caerdydd, Coryton Gwesty’r Village 2pm - 5pm.
7 Gorffennaf Wrecsam Theatr Nick Whitehead, NEWI 2pm - 5pm.
2 Awst Aberystwyth Canolfan Gelfyddydau Aberystwyth 1pm – 4pm
10 Awst Abertawe  Canolfan Dylan Thomas 2pm - 5pm.
 
Am fwy o wybodaeth ynglyn â’r ymgynghoriad, cysylltwch â Peter Harding,  01443 336142.