Archif Newyddion
Taliesin 127: Rhifyn Gwanwyn 2006
Mae’r rhifyn diweddaraf o’r cylchgrawn llenyddol Taliesin bellach ar gael. Mynnwch gopi am £3.50 o’ch siop lyfrau lleol neu tanysgrifiwch nawr am £10 y flwyddyn – cysylltwch â ni ar 029 2047 2266 neu taliesin@academi.org i danysgrifio.
Bratiaith? Rhegi diangen? Neu llais naturiol gwir siaradwyr Cymraeg? Bydd Eigra Lewis Roberts, Llwyd Owen a Cennard Davies ac eraill yn trafod Iaith mewn Llenyddiaeth yn ddi-flewyn-ar-dafod yn y rhifyn hwn. Ceir cerddi newydd gan Nesta Wyn Jones, Catrin Dafydd a Llion Pryderi yn ogystal â’r arlwy arferol o adolygiadau, erthyglau, straeon a’r croesair poblogaidd.
*DALIER SYLW* Cyhoeddir manylion am gystadleuaeth rhyddiaith newydd yn y rhifyn hwn, gyda chyfle i ennill gwobr ariannol sylweddol drwy caredigrwydd cwmni teledu Boomerang.
Cyhoeddir Taliesin gan yr Academi gyda chefnogaeth ariannol Cyngor Llyfrau Cymru.





Mynd i’r fan a’r fan: Taith fws llenyddol gyda’r Prifardd Iwan Llwyd a Karen Owen
Meic Stephens yn 70 dathlu ei gyfraniad i lenyddiaeth yng Nghymru
Pam w tn nfon txt @a inau..? Gweithdy Tecstlynion Eurig Salisbury - rhan o Wyl Llên y Lli.
Deffro o drwmgwsg. Mae Gŵyl Llên y Lli 2008 yn addo deffro’r dychymyg. Cliciwch yma i ddarganfod mwy am ein rhaglen sy’n cynnwys rhai o awduron mwyaf cyffrous Cymru…
Medal hanesyddol: Mererid Hopwood yw’r ferch gyntaf i ennill y Gadair, y Goron a’r Fedal Ryddiaith.
Llanciau Llenyddol: Awduron ifanc yn dod i’r brig yn yr Eisteddfod
Yr Injan Odli - lansio gosodiad unigryw Cymdeithas y Rhyfeddod nos Wener 10 Hydref 2008
Wythnos rhoi llyfr yn anrheg - mae’r dathlu wedi dechrau.