Archif Newyddion

Taliesin 127: Rhifyn Gwanwyn 2006

Taliesin 127

Mae’r rhifyn diweddaraf o’r cylchgrawn llenyddol Taliesin bellach ar gael. Mynnwch gopi am £3.50 o’ch siop lyfrau lleol neu tanysgrifiwch nawr am £10 y flwyddyn – cysylltwch â ni ar 029 2047 2266 neu taliesin@academi.org i danysgrifio.

Bratiaith? Rhegi diangen? Neu llais naturiol gwir siaradwyr Cymraeg? Bydd Eigra Lewis Roberts, Llwyd OwenCennard Davies ac eraill yn trafod Iaith mewn Llenyddiaeth yn ddi-flewyn-ar-dafod yn y rhifyn hwn. Ceir cerddi newydd gan Nesta Wyn Jones, Catrin Dafydd a Llion Pryderi yn ogystal â’r arlwy arferol o adolygiadau, erthyglau, straeon a’r croesair poblogaidd.

*DALIER SYLW*  Cyhoeddir manylion am gystadleuaeth rhyddiaith newydd yn y rhifyn hwn, gyda chyfle i ennill gwobr ariannol sylweddol drwy caredigrwydd cwmni teledu Boomerang

Cyhoeddir Taliesin gan yr Academi gyda chefnogaeth ariannol Cyngor Llyfrau Cymru.