Archif Newyddion
Yn Stomp y Steddfod eleni cafwyd cerddi mawl i Glyn Wise

MOLAWD I GLYN (gydag ymddiheuriadau i Ceiriog)
Anghofiwch Alun Mabon
A Brad y Llyfrau Gleision,
Mae arwr newydd yn y tir,
Un gwylaidd, pur o galon.
Er gwaetha’ pawb a phopeth,
Street–Porter gras ddidoreth,
Anne Robinson, Clarkson a’i ddau fys,
Myn cebyst! Dyma’n gobeth!
Mae’n gorwedd yn yr hwyr
Ac yn codi wedi’r wawr,
Mae’n gorwedd yn hwyr, hwyr
Ac yn codi wedi’r wawr.
Wrth ddilyn ei lun
Ar ganol y sgrin
Cawn ganlyn ein harwr coch
Yng nghartre’r hen Frawd Mawr.
Mae min holl lechi Stiniog – yn ei lais,
Yn ei law mae bidog
I roi taw ar rai taeog,
Ym mhen y llanc mae’r maen llog.
Glyn Wise y galon isel, - Glyn y gân,
Glyn y gwallt dan rasel,
Glyn torf ar dân, Glyn Terfel,
Glyn ddoeth, Glyn ddoniol, Glyn ddel.
Glyn gês, Glyn fwyn, Glyn gyson, - Glyn ddidwyll,
Glyn ddedwydd, Glyn ffyddlon,
Glyn wyau, Glyn y nwyon,
A Glyn to win two to one.
Glyn foesgar a Glyn darian – y gwragedd,
Sy’n graig ac yn hafan
I’w wych Fyfanwy Fychan,
Ei Dame Jade – ei Imogen.
Glyn hogia’ Blaena a Glyn blas – ar fyw,
Ar fin dod i’w deyrnas,
Glyn herwr galon eirias,
Glyn filwr, greddf g?r, oed gwas.
Glyn arwr gwlad, Glyn wron, - Glyn eryr,
Glyn euraid, Glyn ddewrfron,
Glyn Sesiwn Fawr, Glyn Saeson
Yn y baw, Glyn ni’n y bôn.
Glyn soled, Glyn arbedwr – Gwalia wen,
Ie, Glyn ein hachubwr,
Glyn gân y daroganwr,
Glyn dal, Glyn gadarn, Glynd?r.
Aeth blynyddoedd fel y gwynt
A newid ddaeth o rod i rod,
Mae Brodyr Mawrion wedi mynd,
Brawd Mawr arall wedi dod.
Ond Alun Mabon newydd sy’
Ac ’rŷm oll dan fendith Duw
Tra bo’r heniaith yn y tŷ
Ac alawon Glyn yn fyw.
Huw Meirion Edwards

Y Prifardd Huw Meirion Edwards yn darllen ei gerdd yn y Stomp
I bawb sy’n ffan o BB…
Glyn
Ei uwd sy’n anfwytadwy.
Ni all o ferwi ‘run ?y.
Mae o’n dal â blas glasoed -
’di o mond brin ddod i oed.
Ond ef yw cennad y dydd.
Mae ei air yn lladmerydd
yn y byd; lle bynnag bôm
mae’i enw’n anthem ynom.
Bob min nos ers wythnose
hwn yw llais tynera’r lle.
Un â’i ddweud yn rhydd ydyw
dihareb o wyneb yw.
Y Glyn hwn a glywn ni
yw’r Glyn llafarog leni.
Yn Glyn y mae’n hiaith a’n gwlad
yn herio drwy ei siarad,
a rhagor bydd yfory’n
lasach dydd oherwydd hyn.
Yfwn o win y cyfiawn –
mae Glyn yn hen hogyn iawn!
Mari Lisa

Mari Lisa yn darllen ei cherdd hithau yn y Stomp



