Archif Newyddion
DYDDIAD CAU YN AGOSAU

Cystadleuaeth Stori Fer Taliesin
Gwobr: £1,000
Dyddiad Cau: 1 Medi 2006
Beirniad: John Rowlands
Mae’r cylchgrawn llenyddol Taliesin a’r Academi gyda nawdd gan Gr?p Boomerang wedi lansio Cystadleuaeth Ysgrifennu Stori Fer yn y Gymraeg. Am y cyfle i ennill £1,000 a chael eich stori wedi’i chyhoeddi yn Taliesin rhowch eich syniadau creadigol ar bapur cyn ddydd Gwener 1 Medi 2006.
Beirniad y gystadleuaeth yw’r nofelydd a’r beirniad llenyddol John Rowlands. Mae’n Athro Emeritws ym Mhrifysgol Cymru, yn Athro Er Anrhydedd ym Mhrifysgol Cymru, Bangor ac yn Gymraeg yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin. Mae wedi cyhoeddi saith nofel ac amryw astudiaethau beirniadol. Ef yw golygydd cyffredinol y gyfres Y Meddwl a’r Dychymyg Cymreig (Gwasg Prifysgol Cymru). Gyd–olygodd The Bloodaxe Book of Modern Welsh Poetry (2003).
Gair gan John Rowlands:
"Gwych o beth yw fod cylchgrawn fel Taliesin yn gallu cynnig gwobr mor hael am waith creadigol a charwn longyfarch y golygyddion yn groyw am eu blaengarwch. Edrychaf ymlaen at weld sacheidiau o straeon byr yn fy nghyrraedd gyda’r post. Bydd croeso i’r traddodiadol a’r arbrofol, y real a’r afreal, ac er y bydd dewis y gorau yn si?r o achosi crafu pen, mid fydd yn bleser pur hefyd, gobeithio."
Rheolau’r Gystadleuaeth
£3.50 y stori yw’r ffi cystadlu ac ni chyfyngir ar nifer y straeon y gellid eu cyflwyno
Mae’n agored i gystadleuwyr o bob oedran
Dylai pob stori fod rhwng 3,000 a 4,000 o eiriau ac ni ddylai fod wedi’i chyhoeddi o’r blaen.
Dyddiad cau y gystadleuaeth yw 1 Medi 2006
Dadlwythwch gopi o reolau’r gystadleuaeth yn llawn a ffurflen gystadlu yma (fformat: pdf) neu cysylltwch â’r Academi i dderbyn taflen yn y post: 029 2047 2266 / post@academi.org
Mae’r rhifyn cyfredol o Taliesin ar gael i’w brynu yn eich siopau lleol nawr £3.50 - cewch gystadlu am ddim drwy ddefnyddio’r ffurflen gystadlu a ddarperir yng nghefn y rhifyn hwnnw.





Mynd i’r fan a’r fan: Taith fws llenyddol gyda’r Prifardd Iwan Llwyd a Karen Owen
Meic Stephens yn 70 dathlu ei gyfraniad i lenyddiaeth yng Nghymru
Pam w tn nfon txt @a inau..? Gweithdy Tecstlynion Eurig Salisbury - rhan o Wyl Llên y Lli.
Deffro o drwmgwsg. Mae Gŵyl Llên y Lli 2008 yn addo deffro’r dychymyg. Cliciwch yma i ddarganfod mwy am ein rhaglen sy’n cynnwys rhai o awduron mwyaf cyffrous Cymru…
Medal hanesyddol: Mererid Hopwood yw’r ferch gyntaf i ennill y Gadair, y Goron a’r Fedal Ryddiaith.
Llanciau Llenyddol: Awduron ifanc yn dod i’r brig yn yr Eisteddfod
Yr Injan Odli - lansio gosodiad unigryw Cymdeithas y Rhyfeddod nos Wener 10 Hydref 2008
Wythnos rhoi llyfr yn anrheg - mae’r dathlu wedi dechrau.